Eryri yn yr hydref // Snowdonia in autumn
- Cyhoeddwyd
Mae Gogledd Cymru wedi ei dynodi gan ganllaw teithio dylanwadol Lonely Planet ymhlith y 10 lle gorau yn y byd i ymweld â nhw yn 2017. Ymhlith yr ardaloedd sy'n cael eu canmol mae Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r golygfeydd yn rhyfeddol ymhob tymor. Dyma i chi ddetholiad o luniau dynnodd y ffotograffydd Richard Outram o Gaernarfon yn ystod y dyddiau diwethaf.
North Wales has been designated as one of the best locations in the world to visit in 2017 by influential travel guide Lonely Planet. Among the areas highly recommended by the guide is the Snowdonia National Park. The views are stunning whatever the season. These are some of the autumnal scenes Caernarfon photographer Richard Outram has captured over the last few days: