Cerflun o Harri VII ar ei ffordd i Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ymgyrchu ym Mhenfro wedi casglu dros £40,000 er mwyn cael cerflun o Harri VII yn y dref.
Mae'r cerflun wyth troedfedd o daldra bellach wedi ei lunio a'i fodelu mewn clai, a chyn hir bydd yn cael ei orchuddio mewn efydd.
Ond mae'r grŵp ymgyrchu'n dweud bod angen £5,000 arall arnyn nhw er mwyn gosod y cerflun yn ei le.
Fe gafodd Harri VII, y cyntaf o frenhinoedd y Tuduriaid, ei eni yng Nghastell Penfro yn 1457, ac fe aeth ymlaen i drechu Richard III ym mrwydr Bosworth yn 1485.
Mae Castell Penfro yn denu rhwng 80,000 a 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ond mae trigolion lleol yn teimlo y dylai'r dre' wneud mwy i ddathlu man geni'r brenin, ac maen nhw nawr yn ystyried agor canolfan ymwelwyr yn y dref.
Dechreuodd yr ymgyrch i godi arian dair blynedd yn ôl, wedi i weddillion Richard III gael eu canfod yng Nghaerlŷr.
Rhoddodd Cyngor Sir Penfro £20,000 i'r grŵp, gafodd ei sefydlu dan arweiniad y cynghorydd a'r hanesydd Linda Asman, ar yr amod eu bod yn llwyddo i godi swm cyfatebol eu hunain.
Cyfrannodd purfa olew Valero £10,000 a chafodd £12,000 ei godi gan y grŵp.
Ers i fedd Richard III gael ei ddadorchuddio yn Eglwys Gadeiriol Caerlŷr ym mis Mawrth 2015, mae'r gadeirlan wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr ymwelwyr, o 20,000 i 220,000 bob blwyddyn. Mae yna ganolfan ymwelwyr drws nesa' i'r eglwys.
Dywedodd y cynghorydd Linda Asman, a aeth i wasanaeth dadorchuddio bedd Richard III: "Mae Caerlŷr wedi ei deall hi, maen nhw wedi deall grym treftadaeth, ac mae hyn wedi dwyn sylw enfawr i Gaerlŷr.
"Ond yn y pendraw, cafodd Richard III ei drechu gan Harri, ac fe ddylai Harri gael mwy o sylw."