Theatr Ardudwy yn Harlech i ailagor i'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Dywed Cadeirydd Theatr Ardudwy yn Harlech eu bod yn paratoi ar gyfer ailagor y safle i'r cyhoedd erbyn dydd Mercher nesaf, 26 Hydref.
Ddechrau'r mis dywedodd Ben Ridler o Theatr Ardudwy Cyf wrth Cymru Fyw eu bod wedi gorfod cau oherwydd rhesymau diogelwch.
Nawr mae'n dweud eu bod yn ffyddiog y bydd y theatr yn ailagor i ddangos ffilmiau unwaith fod yr awdurdodau yn fodlon fod canllawiau diogelwch a thân wedi eu cadarnhau.
Caewyd y safle oherwydd bryderon am du allan i'r adeilad.
Dywedodd WEA YMCA CC Cymru, perchnogion y safle: "Roedd y pryderon am ddiogelwch yn ymwneud ag haen allanol yr adeilad, ac nid yr adeiladwaith ei hun sy'n gadarn.
"Mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth. Mae pawb sy'n gyfrifol yn gytûn mae Iechyd a Diogelwch y cyhoedd a staff yw blaenoriaeth ein holl drafodaethau."
Yn gynharach eleni, cafodd system sinema ddigidol gwerth £100,000 ei gosod yn y theatr.