Astudiaeth awtistiaeth yn lansio ym Mhrifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae astudiaeth wedi ei lansio er mwyn deall sut y gellir cefnogi teuluoedd sydd yn cael eu heffeithio gan awtistiaeth.
Bydd y treial, sydd yn cael ei gyllido gan elusen ymchwil awtistiaeth, Autistica yn ceisio canfod os yw cynnig y rhaglen gefnogaeth i deuluoedd yn fuan wedi diagnosis eu plentyn yn dod â buddiannau hirdymor.
Mae rhaglenni'r Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years) eisoes yn cael eu defnyddio gan ysgolion, meithrinfeydd a rhieni ledled Cymru.
Mae'r rhaglenni'n datblygu dealltwriaeth gymdeithasol ac emosiynol plant ifanc ac yn sicrhau bod y plant yn elwa o'u profiadau yn yr ysgol, y feithrinfa a'r cartref.
Bydd 72 o deuluoedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil newydd yn y misoedd nesaf.
'Effaith cadarnhaol'
Roedd y rhieni a gymerodd ran mewn rhaglen beilot gynharach yn ei ystyried yn brofiad buddiol gan eu fod wedi dysgu mwy am awtistiaeth ac am ffyrdd newydd o ymdrin â'u plant.
Dywedodd Claire Golding, rhiant o Gricieth a gymerodd ran yn y cwrs peilot: "Trwy'r cwrs llwyddais i addasu fy sgiliau rhianta i gyd-fynd ag anghenion penodol fy mhlentyn, ac mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol arnom fel teulu."
Os yw'r treialon yn llwyddiannus, gall rhaglen newydd i rieni plant ifanc gydag awtistiaeth fod ar gael yng Nghymru ac ar draws y DU.
Dywedodd yr Athro Judy Hutchings o Brifysgol Bangor, a fydd yn arwain yr ymchwil: "Mae bod yn rhiant i blentyn gydag awtistiaeth yn heriol, ond gall yr heriau ymddygiadol a ddaw yn anuniongyrchol o'r awtistiaeth achosi pryder a phroblemau iechyd meddwl i'r un sy'n gofalu am y plentyn, yn ychwanegol at y rhai a achosir yn uniongyrchol gan yr ASD."
Yn ogystal â chyfrannu at rianta mwy llyfn sy'n lleihau'r straen ar y rhiant a'r plentyn, mae gwella sgiliau rhianta rhieni plant gyda ASD yn hanfodol oherwydd pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar eu ddatblygiad."
Dywedodd Jon Spiers, Prif Weithredwr Autistica: "Rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau, ac os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ymgyrchu i ledaenu'r gwasanaeth yn genedlaethol fel y gall pawb sydd ei angen cael budd ohono."