Digwyddiadau i gofio 50 mlynedd ers trychineb Aberfan
- Cyhoeddwyd
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal fore Gwener i gofio'r rheiny fu farw yn nhrychineb Aberfan 50 mlynedd yn ôl.
Ar 21 Hydref 1966 fe wnaeth tomen o lo lithro i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a 18 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl.
Fe ddechreuodd y diwrnod o ddigwyddiadau i goffau'r trychineb gyda gwasanaeth ym Mynwent Aberfan am 09:15.
Gofynnodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar bobl Cymru i nodi'r munud o dawelwch bryd hynny.
Fe wnaeth Tywysog Charles ymweld â gardd goffa Aberfan, sydd yn sefyll ar hen safle Ysgol Pantglas, lle wnaeth osod torch er cof am y rhai a gollwyd.
Wrth arwain teyrngedau yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos yma, fe wnaeth y Prif Weinidog Theresa May gytuno y dylai pobl ledled y DU nodi'r achlysur a chofio'r rheiny fu farw.
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn holl swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Sgwâr Westgate yng Nghasnewydd, pwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful, a mannau eraill.
Dywedodd Mr Jones bod y trychineb yn "un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes modern Cymru".
"Cafodd y drychineb effaith enbyd ar unigolion, teuluoedd a'r gymuned," meddai.
"Priodol felly, hanner canrif yn ddiweddar, bod y wlad gyfan yn dod ynghyd, gyda pharch a chariad, i gofio."
Bydd y Tywysog Charles yn mynychu derbyniad ddydd Gwener gyda theuluoedd rhai o'r rheiny gollodd eu bywydau yn y drychineb.
Mae disgwyl i Gôr Meibion Ynysowen a chôr Ysgol Rhyd y Grug berfformio yn y derbyniad, yn ogystal â'r delynores Eve Price o Ysgol Gyfun Rhydywaun a'r delynores brenhinol, Anne Denholm.
Fe fydd y Tywysog Charles yn dadorchuddio plac i gofio am y rheiny gollodd eu bywydau ac yn arwyddo llyfr coffa, ac fe fydd hefyd yn cael cyfle i weld eitemau hanesyddol gan gynnwys y llyfr o gydymdeimlad gwreiddiol.
Bydd y gwasanaeth coffa ym Mynwent Aberfan yn cael ei arwain gan y Tad Mark Prevett, a bydd Mr Jones, Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones ymysg y rheiny fydd yn gosod torchau o flodau.
Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Santes Margaret yn Aberpennar oherwydd ei chysylltiadau cryf gyda'r gymuned gyfagos yn Aberfan.
Bydd baneri'r Cynulliad yn hedfan ar eu hanner i nodi'r digwyddiad, ac mae llyfr o gydymdeimlad wedi cael ei agor yno.
Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Ynysowen, Merthyr Tudful am 19:00, ble bydd y Parchedig Irving Penberthy - y gweinidog oedd yn gwasanaethu Aberfan ar adeg y drychineb - yn pregethu.