Ymchwiliad cam-drin i agor yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
cam-drin

Mae dioddefwyr troseddau rhyw hanesyddol yn cael eu hannog i roi tystiolaeth i ymchwiliad annibynnol newydd wrth iddo ddechrau yng Nghymru ddydd Mercher.

Mae disgwyl i tua 100 o unigolion a chynrychiolwyr o sefydliadau fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, GIG Cymru, elusennau a sefydliadau crefyddol fynd i lansiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhyw o Blant (IICSA) yn Stadiwm Principality.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu gan yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, Theresa May, yn 2014 i ystyried sut mae sefydliadau yng Nghymru a Lloegr yn gwarchod plant rhag cael eu cam-drin.

Bu'r ymchwiliad yn destun dadleuon ac mae'r pedwerydd cadeirydd bellach wrth y llyw, sef Yr Athro Alexis Jay, a gafodd ei phenodi ym mis Awst wedi ymddiswyddiad y Fonesig Lowell Goddard.

'Presenoldeb cryf'

Nos Fawrth fe wadodd Yr Athro Jay bod yr ymchwiliad ar chwâl gan ddweud bod y 160 o staff yn awyddus i fwrw ati i wneud eu gwaith.

"Rwyf fi a fy nghyd-banelwyr yn gwbl glir, ac wedi bod yn glir o'r dechrau, am yr hyn sydd angen ei wneud, ond rhaid i ni gael amser a lle i wneud y gwaith hanfodol yma," meddai.

Cyn y lansiad yng Nghaerdydd, fe wnaeth Yr Athro Jay bwysleisio ymrwymiad yr ymchwiliad i greu presenoldeb cryf yng Nghymru, a gweithio gyda dioddefwyr a grwpiau o oroeswyr.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddechrau clywed tystiolaeth yn 2015 ac mae disgwyl i'r gwaith barhau tan o leia' 2020.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Alexis Jay yw pedwerydd cadeirydd yr ymchwiliad

Mae tua 400 o bobl eisoes wedi dod i gysylltiad gyda'r ymchwiliad i ddatgelu cam-drin.

Fel rhan o ail gangen yr ymchwiliad fe fydd ymchwiliadau i 13 o sefydliadau gan gynnwys Eglwysi Catholig a nifer o gartrefi preswyl ac awdurdodau lleol.

Bydd trydedd gangen yr ymchwiliad yn ystyried materion ehangach gan gynnwys system iawndal y llywodraeth a sut y maen nhw wedi gwasanaethu dioddefwyr camdriniaeth.

Achos penodol

Mae un dyn sydd yn dweud ei fod wedi ei gam-drin ac yn bwriadu rhoi tystiolaeth fis nesaf yn gobeithio y bydd ymwneud â'r ymchwiliad yn ei helpu i gael "heddwch".

Dywedodd: "Mae'r prosiect wedi bod yn ddadleuol ac rydw i wedi cael amheuon nes i mi gael e-bost yr wythnos ddiwethaf yn dweud eu bod eisiau fy nghyfweld.

"Felly... dw i yn mynd i roi tystiolaeth, fy stori i a dw i'n obeithiol... dim ond fel hynny allai fod mewn gwirionedd."

Mae'r dyn yn dweud iddo gael ei gam-drin gan weithiwr ieuenctid yn y 70au hwyr tra roedd o mewn gwersyll haf ym Mhorthcawl.

Mae'r honiadau yn cael eu hategu gan ddau ddyn arall, ac fe gafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu De Cymru.

Ond cafodd yr ymchwiliad ei atal yn sgil cyflwr iechyd y person sydd wedi ei gyhuddo, sydd nawr yn ei 80au. Deallir ei fod yn dioddef o ddementia.

Mae'r tri dyn nawr yn bwrw ymlaen gydag achos sifil yn erbyn Cyngor Caerdydd gan honni bod y cyngor wedi cyflogi'r gweithiwr ieuenctid ar y pryd.

Dywedodd y cyngor eu bod yn cymryd honiadau o gamdriniaeth o ddifrif a'u bod yn "ymchwilio yn drwyadl".

"Dyw'r cyngor ddim yn gallu gwneud sylw ar achosion penodol tra bod materion dal yn gyfredol," medden nhw.