Cian, y Furries a'r gerddorfa

  • Cyhoeddwyd

Pwy feddyliai, er holl brysurdeb y Super Furry Animals yn y 90au, y byddai egin syniad un aelod yn cymryd 20 mlynedd i weld golau dydd? Ond mae Cian Ciarán, o'r diwedd, ar fin gweld ffrwyth ei lafur.

"Mae'n rhyw fath o labour of love," meddai wrth eistedd lawr i drafod ei brosiect unigol mwyaf uchelgeisiol hyd yma.

Ar 4 Tachwedd bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno premiere byd-eang o stori Rhys a Meinir. Cian sy'n gyfrifol am y gerddoriaeth, yr actor, a'i ffrind agos, Rhys Ifans sy'n lleisio, gyda barddoniaeth wedi ei chyfansoddi gan Gruffudd Antur.

Y gerddorfa - 80 aelod a mwy - sy'n gyfrifol am y gweddill.

Cian Ciarán
Disgrifiad o’r llun,

Cian Ciarán

"Dwi wedi bod yn cadw cofnodion, casglu darnau addas a stwff ers stalwm," meddai Cian. "Dwi wastad wedi bod mewn i bob math o fiwsig. Oedd Mam yn deud wrtha fi pan o'n i tua pump oed mod i wedi rhedag mewn i'r gegin yn crio achos mod i wedi bod yn gwrando ar fiwsig Pearl Fishers!"

Chwedl drasig

Mae chwedl Rhys a Meinir, dau gariad, wedi ei lleoli yn Nant Gwrtheyrn. Mae'r lleoliad yn arwyddocaol i Cian gan mai yma y sefydlodd ei dad, y Dr Carl Clowes, y Ganolfan Iaith Genedlaethol yn y 70au.

Mae'r cariadon yn penderfynu priodi. Ond fore eu priodas, does dim golwg o Meinir yn unman.

Mae misoedd yn mynd heibio a does dim sôn am Meinir druan. Un noson stormus, a Rhys yn cysgodi dan dderwen, mae mellten yn hollti'r goeden gan ddatgelu sgerbwd mewn ffrog briodas. Yn y fan a'r lle, mae calon Rhys yn torri ac mae'n syrthio'n farw wrth draed ei briodferch.

"Mae'r stori yn aros efo chdi," meddai Cian. "Mae'n stori syml a dwi'n trio creu rwbath efo lot o atmosffer, rwbath ffilmig, dramatig a rhamantus.

"Nath rhywun ofyn wrtha fi diwrnod o'r blaen os fysa'u plant nhw'n cael dod i weld o - maen nhw'n naw i 10 oed. Fyswn i'n licio meddwl fod o'n apelio at yr oed yna yr holl ffor' i fyny at oed fy hen nain, os fysa hi dal o gwmpas.

"Dwi'n mynd am rwbath eitha' traddodiadol - dwi'm yn trio creu rwbath groundbreaking - jest trio creu rwbath... prydferth, sy'n gweddu i'r stori."

Rhys Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Rhys Ifans wedi recordio naratif i'r perfformiad ymlaen llaw

Mae'r perfformiad cyntaf erioed o'r gwaith - fydd yn cael ei berfformio yng Nghaerdydd ac yna ym Mangor - yn cynnwys naratif wedi'i recordio gan yr actor Rhys Ifans.

"Dwi'n nabod Rhys ers dwi'n tua wyth oed, mae o fel brawd i fi. Oedd o wedi cytuno i 'neud o'n fyw ond ers hynna mae o wedi cael cynnig g'neud sioe King Lear felly mae o wedi recordio fo 'mlaen llaw. Do'n i ddim yn talu fo chwaith i fod yn deg!"

Mecsico a Euro 2016

Er fod y prosiect diweddara' wedi bod yn cymryd llawer o'i amser yn ddiweddar, dydy pethau ddim i weld yn tawelu rhyw lawer i Cian gyda'r Super Furries chwaith.

"Fydda i methu mynd i weld y sioe fyny yn Pontio [ym Mangor] achos bo' ni'n Mecsico efo'r Furries," meddai Cian, sy'n paratoi at daith o amgylch Prydain gyda'r band a fydd yn cloi gyda pherfformiad yng Nghaerdydd cyn y Nadolig.

Super Furry Animals
Disgrifiad o’r llun,

SFA, OK!

Mae hi'n 20 mlynedd eleni ers rhyddhau'r albym Fuzzy Logic, ac mae'r band yr un mor boblogaidd ag erioed.

Dros yr haf, fel miloedd o Gymry eraill, roedd Cian yn Ffrainc yn dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol - a doedd y Furries ddim yn mynd i fethu cyfle i berfformio yn ystod cyfnod mor hanesyddol.

"Toulouse oedd un o'r gigs gora' dwi erioed wedi 'neud," meddai Cian wrth gofio'n ôl i set fythgofiadwy yng ngŵyl Rio Loco ddeuddydd cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Rwsia.

"O'n i'n chwil ga**u, ond o'n i heb dwtchad alcohol. Oedd o jest fel y contact high 'ma - yr achlysur, a gweld ffans Cymru yna i gyd. Oedd o'n mental.

"O'n i wedi trefnu bod allan yno am bythefnos, dim ond i'r dair gêm gynta'. Ond nesh i ddreifio 'nôl drosodd tair gwaith eto wedyn - o'n i methu cael digon ohono fo."

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Disgrifiad o’r llun,

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Felly beth fyddai'n gwneud yn wahanol wrth fynd i'r afael â phrosiect mor uchelgeisiol eto?

"Fydda hi'n neis cael dy gomisiynu i neud rwbath i rhywun arall, er mwyn iddyn nhw gael gymryd rhywfaint o'r baich," meddai.

"Ddôth y BBC fewn tua blwyddyn yn ôl, ond am gyfnoda' hir tan hynna oedd o jest yn broses o ddisgwyl ateb gan bobl a chyrff fel PRS, y Cyngor Celfyddydau. Munud ddaeth PRS yn ôl ata i o'n i fel 'waw, oce, mae'n rhaid i fi 'neud rwbath rŵan'.

"Dwi wedi 'neud ffilm a theledu yn y gorffennol ond ar y cyfrifiadur o'n i'n g'neud y miwsig i gyd. Do'n i ddim o reidrwydd yn gweithio efo pobl mewn 'stafall felly ma' hyn wedi bod yn brofiad newydd. Er, dydan ni heb gael lot o amser. Gaethon ni un rehearsal ym mis Ionawr, ac un arall dydd Iau, diwrnod cyn y perfformiad.

"Mae cyrraedd y pwynt yma'n lwyddiant ynddo fo'i hun."

line
Disgrifiad,

Cyngerdd gan Cian Ciarán a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru am 19:00 nos Wener, 4 Tachwedd gyda Lisa Gwilym a Huw Stephens yn cyflwyno a'r cerddor Owain Llwyd yn rhoi sylwadau.

Bydd ail berfformiad yn Pontio, Bangor, ar 19 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC