Dyn o Feddgelert yn ennill Marathon Eryri
- Cyhoeddwyd
Russell Bentley o Glwb Athletau Caint sydd wedi ennill Marathon Eryri y dynion eleni mewn ychydig dros ddwy awr a hanner.
Fe orffennodd Bentley, sydd bellach yn byw ym Meddgelert ac wedi cynrychioli Cymru, gydag amser o 2:35:05, llai na dau funud o flaen Daniel Jones o Glwb Athletau Caerfaddon ddaeth yn ail.
Joanne Nelson o Glwb Rhedeg Darwen oedd yn fuddugol ym marathon y merched gydag amser o 3:03:53, gan dorri record y ras yn y broses.
Gorffennodd Andrea Rowlands o glwb rhedeg lleol Eryri Harriers yn ail, munud y tu ôl i Nelson.
Roedd y gyflwynwraig deledu Angharad Mair yn seithfed, gydag amser o 3:17:19, ac roedd Miranda Grant a Jennifer Charlton o glwb Eryri Harriers hefyd yn y deg uchaf.
Yn ras y dynion, y gorau o glybiau rhedeg Cymru oedd Rob Johnson o Glwb Rhedeg Aberystwyth, a gwblhaodd y ras mewn 2:51:00.
Dywedodd Bentley ar ôl ennill y ras mai "dyma'r peth anoddaf dw i erioed wedi'i wneud".
Mae Marathon Eryri, oedd yn dechrau a gorffen yn Llanberis ac yn teithio drwy Pen-y-pas, Beddgelert, Rhyd Ddu a Waunfawr, yn cael ei hystyried gan rai ymysg y caletaf yn Ewrop.