Penodi contractwyr i ddatblygu marchnad ac oriel Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Google

Mae contractwyr wedi eu penodi i ddatblygu Marchnad y Bobl ac Oriel Wrecsam yn y dref.

Bydd Wynne Construction yn cydweithio â Chyngor y Celfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru ar y prosiect gwerth £4.5m.

Mae'r cynllun yn cynnwys adnewyddu adeilad Marchnad y Bobl i gynnwys dwy oriel, ardaloedd perfformio, stondinau marchnad, siop Oriel Wrecsam a gofod addysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, prif aelod cymunedau a phartneriaethau'r cyngor: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd â'i bartneriaid, yn edrych ymlaen at weithio gyda Wynne Construction a bwrw mlaen â'r prosiect.

"Mae hwn yn brosiect allweddol i Wrecsam, a thrwy gydweithio, gallwn sicrhau y bydd datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam yn llwyddiant."

Nid pawb sydd wedi bod o blaid y datblygiad, gyda rhai masnachwyr yn poeni y bydden nhw'n colli eu stondinau.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r datblygiad

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wynne Construction, Chris Wynne eu bod yn falch o ennill y cytundeb, ac y byddan nhw'n ymgynghori â'r gymuned leol a rhanddeiliaid wrth gwblhau'r gwaith.

Bydd Marchnad y Bobl yn parhau'n agored wrth i'r gwaith fynd rhagddo.