Cymeradwyo canolfan gelfyddydau newydd yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
People's MarketFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Marchnad y Bobl

Bydd cynlluniau dadleuol i godi canolfan gelfyddydau newydd yn Wrecsam yn mynd yn eu blaen.

Yn barod, mae pwyllgor craffu y cyngor wedi cymeradwyo'r cynlluniau ar gyfer prif farchnad dan do'r dre', sef Marchnad y Bobl. Mae disgwyl i'r prosiect gostio £4.5 miliwn.

Y bwriad yw sefydlu stiwdio i artistiaid, caffi, siop anrhegion a llefydd i fasnachwyr eraill ar y safle.

Bydd oriel newydd, a oedd wedi ei lleoli yn y llyfrgell, hefyd yn y ganolfan. Mi gafodd yr oriel ei chau i greu lle ar gyfer gorsaf heddlu newydd yng nghanol y dre'.

Yn ôl y cyngor, mae'r cynlluniau yn rhan o gynllun ehangach i adfywio'r dre' ac mi fydd y ganolfan yn denu mwy o bobl i ganol Wrecsam.

Ond mae rhai masnachwyr wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn pryderu y byddan nhw yn colli eu stondinau. Mae rhai hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â seiliau ariannol y cynllun.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r ganolfan newydd

Gwerth am arian?

Mae adroddiad swyddogion wedi dweud y bydd y ganolfan newydd yn gwneud colled o bron i £400,000 am y tair blynedd gyntaf. Ond mae cyngor Wrecsam yn dadlau bydd y cynllun yn rhoi gwerth am arian yn y pendraw.

Mae ffigyrau'r adroddiad yn tybio y bydd ymddiriedolaeth annibynnol yn cael ei sefydlu gan y cyngor i reoli'r ganolfan newydd.

Yr un ymddiriedolaeth fydd yn gyfrifol am lyfrgell, amgueddfa a gwasanaeth archif y sir.

Ym mis Rhagfyr cafodd cais ei wneud am gymorthdal o £2.3 miliwn gan Gyngor y Celfyddydau.

Mae disgwyl i'r cyngor gyfrannu £1,563,500 gyda £700,000 yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y broses, mae'r cyngor yn dweud ei bod wedi cynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd a chyfarfodydd gyda'r masnachwyr.

Y bwriad ydy dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2017 ac agor y lle yn 2018.