Casgliad o gerddi coll R.S. Thomas yn cael eu cyhoeddi

  • Cyhoeddwyd
BarddFfynhonnell y llun, PA

Mae casgliad o gerddi coll gan y bardd R.S. Thomas wedi cael eu cyhoeddi.

Mae'r gyfrol newydd o'r enw Too Brave to Dream: Encounters with Modern Art wedi ei chyhoeddi dan olygyddiaeth Yr Athro Tony Brown a'r Athro Jason Walford Davies o Brifysgol Bangor.

Mae'r Athro Brown a'r Athro Davies yn gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas yn y brifysgol.

Bu farw R.S. Thomas yn y flwyddyn 2000.

Pan symudodd ail wraig y bardd, Betty Thomas o'r bwthyn lle y bu'n byw gydag R.S. Thomas, fe gyflwynwyd llyfrau personol Thomas i archif y ganolfan ymchwil.

Wedi eu gosod rhwng tudalennau dwy gyfrol, cafodd 36 o gerddi eu darganfod yn llaw y bardd - cerddi nad oedd wedi'u gweld cyn hynny.

Gwaith celf

Mae'r cerddi'n ymateb i ddetholiad o weithiau celf modernaidd, yn cynnwys darluniau gan Henry Moore, Edvard Munch, Salvador Dalí, René Magritte a Graham Sutherland.

Mae'r casgliad newydd yn dod a'r cerddi hyn i olau dydd am y tro cyntaf, ynghyd ag atgynyrchiadau lliw o'r gweithiau celf roedd Thomas yn ymateb iddynt.

Dywedodd Yr Athro Jason Walford Davies: "Drwy'r cyfan mae yna ymdeimlad ag ansicrwydd - yng nghyswllt hunaniaeth bersonol a'r berthynas rhwng y rhywiau, er enghraifft - a hefyd gyfeiriadau cyson at wrthdaro o wahanol fathau.

"Maen nhw'n gerddi aflonydd, ac aflonyddol, sydd efallai'n dadlennu rhywbeth pwysig ynghylch cyflwr meddwl y bardd yn ystod y cyfnod hwyr hwn yn ei yrfa."

'Diddordeb dwfn'

Ychwanegodd Yr Athro Tony Brown: "Fel y trafodwyd yn y Rhagymadrodd i'r gyfrol newydd hon, roedd gan R.S. Thomas, er nad oedd yn ymweld yn gyson ag orielau a chasgliadau celf mawrion, ddiddordeb dwfn mewn celfyddyd weledol drwy gydol ei fywyd.

"Mae yna gerddi sy'n ymateb i weithiau celf i'w cael yn ei waith o'r dechrau - o'i gyfrol gyntaf, The Stones of the Field (1946), lle ceir cerdd mewn ymateb i ddarlun gan Augustus John, i gerdd ynghylch gwaith Paul Klee, a ymddangosodd yn 1995 yn y gyfrol olaf o farddoniaeth i'w chyhoeddi yn ystod ei fywyd, No Truce with the Furies."