Cyfaddef anfon neges Twitter 'faleisus' at Leanne Wood
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed wedi cael dedfryd o 12 mis o orchymyn cymunedol ar ôl pledio'n euog i anfon neges Twitter maleisus at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod Ross Hookings wedi trydar neges ar 22 Mehefin oedd yn dweud ei bod yn "drueni na fyddai rhywun yn saethu" Ms Wood.
Dywedodd Abul Hussain ar ran yr erlyniad nad oedd yn gallu dweud a oedd y neges wedi ei anfon yn unionyrchol at Leanne Wood, ond ei fod wedi ei anfon yn gyhoeddus.
Ychwanegodd fod cynnwys y neges yn achos pryder i Ms Wood, o gofio iddi gael ei hanfon lai na phythefnos wedi marwolaeth yr aelod seneddol Llafur, Jo Cox.
Clywodd y llys fod Ms Wood wedi gweld y neges tra'n gwylio'r teledu yn ei chartref.
Wrth amddiffyn Ross Hookings, dywedodd Matthew Murphy nad oedd y diffynnydd wedi trydar Ms Wood yn uniongyrchol trwy ei chyfeiriad Twitter.
Dywedodd nad oedd yn fwriad ganddo i Ms Wood weld y neges, ond ei fod yn derbyn y gallai ei ddilynwyr fod wedi ei weld.
Wrth ei ddedfrydu â 12 mis o orchymyn cymunedol, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Neale Thomas fod said Ross Hookings wedi "camddefnyddio'r rhyngrwyd" a bod ei weithredoedd yn "ddi-hid" ac yn "sarhaus".
Ychwanegodd, er nad oedd y diffynnydd wedi rhagweld canlyniadau ei weithredoedd, y dylai fod wedi gwybod yn well o gofio ei oed.