Datrys dirgelwch yr M4

  • Cyhoeddwyd
y cyfforddFfynhonnell y llun, Google

Mae'n un o ffyrdd prysuraf Cymru, ond wrth wibio ar hyd yr M4 ydych chi wedi sylwi bod yna rhywbeth ar goll?

Wrth deithio o'r Gorllewin mae nifer fawr o deithwyr sy'n ymweld â Chaerdydd yn gadael y draffordd ar Gyffordd 32 ger cylchfan Coryton.

I'r rhai sy'n aros ar y draffordd dyw hi ddim yn bosib gadael eto tan i chi gyrraedd Porth Caerdydd. Cyffordd 31 iawn? Nage, Cyffordd 30 yw Porth Caerdydd.

Felly beth ddigwyddodd i Gyffordd 31?

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cyffordd 32 (Coryton) ar y chwith yn arwain at Gyffordd 30 (Porth Caerdydd) ar y dde

Mae'r ateb yn syml. 'Dyw cyffordd 31 erioed wedi bodoli.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi i ddatblygu Cyffordd 31 ym Medi 1991 gan hen gyngor De Morgannwg, i gysylltu ardal Y Ddraenen (Thornhill) gyda'r M4.

Y bwriad oedd i rannol ddeuoli yr A469 rhwng Caerdydd a Chaerffili er mwyn creu cyswllt addas ar gyfer gogledd y ddinas i'r draffordd.

Erbyn hyn, mae'r caniatâd wedi dod i ben. Cafodd y cynlluniau eu rhoi o'r neilltu gan Gyngor Caerdydd yn 2007.

Er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor wedi gwarchod y tir sydd o gwmpas ardal ble byddai Cyffordd 31 wedi cael ei hadeiladu rhag ofn y bydd 'na alw am ffordd gysylltiol rhyw ben yn y dyfodol.

Ond mae'n edrych yn debyg na fydd y gyffordd yn gweld golau dydd yn y dyfodol agos o leiaf.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Cyffordd 31 yn cysylltu yr A469 gyda'r M4