Teulu Conner Marshall i ddechrau achos cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae teulu o'r Barri yn dweud eu bod wedi casglu digon o arian i ddechrau achos cyfreithiol ar ôl i'w mab gael ei lofruddio gan ddyn oedd wedi ei ryddhau o'r carchar ar gyfnod prawf.

Bu farw Conner Marshall, 18, yn dilyn ymosodiad mewn parc carafanau ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.

Roedd David Braddon wedi bod yn yfed ac yn cymryd cyffuriau pan ymosododd ar Conner, ac mae bellach wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.

Yn dilyn brwydr hir i weld yr adolygiad o Drosedd Difrifol Bellach i achos Braddon, mae rhieni Conner, Nadine a Richard Marshall wedi bod yn casglu arian i dalu am gyfreithiwr.

Dywedodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru bod yr adolygiad wedi dod i'r casgliad nad oedd modd rhagweld nac osgoi llofruddiaeth Conner, ac nad oedd cyswllt rhwng y rheolaeth o'r achos a'r drosedd.

'Sarhaus'

Yn siarad gyda rhaglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd Nadine Marshall: "Rydyn eisiau cwestiynu'r cyfrifoldeb a'r prosesau gafodd eu cymryd, neu wnaeth ddim cael eu cymryd, tra roedd o'n gwneud gwasanaeth cymunedol.

"Yr hyn rydyn ni'n ei gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yw nad oedd modd rhagweld llofruddiaeth Conner, sy'n ofnadwy o sarhaus oherwydd yr hyn rydyn ni'n ei wybod nawr."

Fe wnaeth yr adolygiad o Drosedd Difrifol Bellach godi pryderon bod Braddon wedi methu apwyntiadau gyda staff y gwasanaeth prawf, a bod asesiadau risg ac adroddiadau oedd heb eu cwblhau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nadine Marshall ei bod yn bwysig dal rhywun i gyfri'

Ond mae'r teulu wedi apelio am arian i dalu am achos cyfreithiol gan y cyhoedd drwy wefan arbennig gan nad ydyn nhw'n cyrraedd y meini prawf am gymorth ariannol.

Y targed gwreiddiol oedd £5,000, sydd wedi ei gyrraedd, ond mae'r teulu yn meddwl y gallai gostio £25,000 i dalu am achos.

Dywedodd Mrs Marshall ei bod yn bwysig dal rhywun i gyfri'.

"Nid yw'n bosib gweithredu'r broses y dylai gael ei weithredu, am sawl rheswm, felly mae llawer o droseddwyr all fod yn beryglus yn crwydro, a mwy o deuluoedd yn aros i rywbeth fel hyn ddigwydd," meddai.

"Does gen i ddim ffydd o gwbl yn y system achos mae'n gwegian, yn boddi dan broblemau.

"Mae'n ofnadwy i feddwl bod bom arall yn disgwyl i ffrwydro a bod teuluoedd eraill fydd yn dioddef a 'dwi ddim yn meddwl bod hynny'n dderbyniol."

Ymchwiliad llawn

Dywedodd llefarydd ar ran Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ei fod yn cydymdeimlo gyda theulu Conner wedi'r drosedd "ffiaidd".

"Mae troseddau difrifol bellach yn brin ond mae pob un yn cael ei gymryd o ddifrif ac mae ymchwiliad llawn," meddai'r llefarydd.

"Cafodd pob penderfyniad ei wneud gan weithwyr prawf profiadol a chymwys."

Ffynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Bydd David Braddon yn treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo

Ychwanegodd y llefarydd mai diogelu'r cyhoedd yw "prif flaenoriaeth" y corff, a'u bod yn ceisio gwella safon gwasanaethau yn gyson.

"Mae'r person sy'n gyfrifol am y drosedd bellach wedi ei ddedfrydu," meddai.

"Nid yw rheolaeth yr achos wedi'i gysylltu gyda'r drosedd - fe wnaeth yr adroddiad o Drosedd Difrifol Bellach ddarganfod nad oedd modd rhagweld nac osgoi marwolaeth Conner."

Ychwanegodd y llefarydd bod y corff wedi cryfhau partneriaethau rhwng asiantaethau i sicrhau gwasanaeth cyson.

Eye on Wales, BBC Radio Wales. 12:30 ddydd Sul 13 Tachwedd.