1,200 o bobl yn mynychu angladd Eifion Gwynne

  • Cyhoeddwyd
Angladd

Fe ddaeth dros 1,200 o bobl i angladd chwaraewr rygbi fu farw yn Sbaen fis diwethaf ar ôl cael ei daro gan gar.

Bu farw Eifion Gwynne, 41 yn ne'r wlad ar 22 Hydref.

Roedd y trydanwr, oedd yn briod â thri o blant, yn adnabyddus yn yr ardal ac wedi chwarae i glybiau rygbi Aberystwyth a Llanymddyfri.

Cyd aelodau o glwb rygbi Aberystwyth wnaeth hebrwng ei arch i gapel Morfa ac fe fu trigolion yn dathlu ei fywyd yng nghlwb rygbi'r dref.

Roedd teulu Eifion Gwynne wedi gwneud apêl er mwyn ceisio sicrhau lle ym Mynwent Plascrug Aberystwyth ar ôl dod i wybod bod yr unig lefydd ar ôl yno ar gyfer pobl sydd â 'Hawl Neilltuol i gladdedigaeth'.

Disgrifiad,

Gwion James, ffrind y teulu yn sôn am y gefnogaeth

"Ysbrydoliaeth i lawer"

Ond fe ddaeth cadarnhad fod lle wedi ei gynnig i deulu Mr Gwynne ym Mynwent Plascrug.

Roedd Eifion Gwynne wedi dweud wrth ei wraig, Nia, ei fod yn dymuno cael ei gladdu yn y fynwent honno.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel person oedd yn "byw bywyd i'r eithaf, ac roedd ei egni a'i gymeriad caredig yn ysbrydoliaeth i lawer.

"Roedd ei wên yn goleuo'r ystafell, a byddai ei anwyldeb yn sicrhau y byddai'n helpu unrhyw un ac yn trin pawb gyda'r un parch.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

"Dyna'r rheswm pam bod dathlu'r hyn a gyflawnodd yn ystod ei fywyd yn rhoi cymaint o gysur i ni."

Maent hefyd yn diolch i'r gymuned leol a thu hwnt am eu cefnogaeth, y gymuned rygbi a'u teuluoedd a chyfeillion:

"Chwalwyd ein byd o glywed am farwolaeth ddisymwth Eifion, ond mae ffrindiau, teulu a chydweithwyr wedi rhoi cryfder a dewrder i ni wynebu'r cyfnod anodd hwn yn ein bywydau.

"Mae'r teyrngedau wedi llifo atom o bob cwr o'r byd; y lluniau lu wedi dod â gwên i'n hwynebau, a'r holl eiriau caredig wedi ein hatgoffa pa mor uchel ei barch oedd Eifion, gan ddangos i ni'r nifer o fywydau y mae ef wedi eu cyffwrdd."