Rheolau newydd i 'gefnogi' ysgolion gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi rheolau newydd ar gyfer 'cefnogi' ysgolion gwledig Cymru.
Bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cod Trefnidiaeth Ysgolion sy'n cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol wrth drafod dyfodol ysgolion, a hefyd bydd grant o £2.5m ar gael i annog gwell defnydd o dechnoleg.
Mae'r mesurau yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol wledig, gyda rhaglen ymgynghori sy'n fwy trwyadl. Byddai hynny'n gorfodi'r awdurdodau lleol i ystyried yr holl ddewisiadau gwahanol posibl, gan gynnwys creu cysylltiadau gydag ysgolion eraill.
Yn ôl Kirsty Williams: "Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir - nid mater o gadw pob ysgol yn agored yw hyn. Rydyn ni eisiau codi safonau yn ein hysgolion i gyd, ble bynnag y maen nhw, a sicrhau bod pob ysgol yn cael gwrandawiad teg os yw ei dyfodol yn y fantol."
Bydd grant o £2.5m newydd ar gael o Ebrill 2017 i gefnogi gwell cydweithio rhwng ysgolion bach a'r rhai gwledig, ac annogaeth i ddefnyddio'r arian ar gyfer gwell defnydd o dechnoleg.
Gellid hefyd defnyddio'r arian i gynyddu defnydd y gymdeithas o adeiladau'r ysgol.
Dywedodd Ms Williams, "Mae disgyblion mewn ysgolion gwledig yn haeddu yr un cyfleoedd â phlant mewn rhannau eraill o Gymru.
"Mae ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rôl bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd.
"Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau a chymhellion newydd i ysgolion gwledig greu cysylltiadau a gweithio gyda'i gilydd er lles athrawon a disgyblion.
"Rwy' am weld ysgolion gwledig yn gweithio'n fwy ffurfiol gyda'i gilydd ledled y wlad, gan ffurfio ffederasiynau ac ystyried y posibilrwydd o rannu adeiladau gyda gwasanaethau eraill, er mwyn sicrhau y bydd adeiladau ysgol yn parhau i fod yn hyfyw."
Adolygiad i addysg
Fe ddaw'r cyhoeddiad ar adeg pryderus i rieni ysgolion gwledig yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin wrth i'r awdurdodau lleol drafod ystyried cau.
Gallai adolygiad i addysg yng Ngheredigion olygu dyfodol ansicr i ysgolion Cilcennin, Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach, a dyw hi ddim yn glir beth fydd dyfodol ysgolion Bancffosfelen, Llanedi, a Tremoilet yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ms Williams bod hyn yn ymgais i sicrhau bod anghenion penodol cymunedau gwledig a phlant y cymunedau gwledig yn cael eu hystyried yn deg.
Ychwanegodd y byddai hi'n benderfyniad i'r Awdurdodau Addysg Lleol i gynllunio sut mae'r ysgolion yn gweithredu, ond "bod na ffyrdd gwell a mwy dychmygus o sicrhau bod ganddon ni addysg o'r safon uchaf mewn ardaloedd gwledig, a'n bod ni angen i'r awdurdodau addysg lleol i feddwl y tu allan i'r bocs."
Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd ysgolion Glynarthen, Blaenporth, Rhydlewis a Phontgarreg yn ne Ceredigion eu cau ac ysgol ardal T Llew Jones ei hagor ym Mrynhoffnant yn ei lle.
Yn ôl un o gynghorwyr yr ardal, Gwyn James, mae 'na fwlch ar ôl yr ysgolion bach: "Mae Ysgol Pontgarreg wedi cau. Wedd honno yn ganol y pentre. Wedd y bwrlwm yn dod i mewn i'r pentre, a wedith bobl y pentre bod y galon wedi mynd mas o'r pentre, a weden i falle eu bod nhw'n iawn.
"O'dd yr addysg yn dda yn yr ysgol fach. Mae'r classroom wedi mynd yn fwy.
"Dwi ddim yn gallu dweud a yw'r addysg yn well yn yr ysgol fowr. Pan o'n nhw'n danglo carot o flaen ein trwyn ni a cynnig ysgol £5m i ni, a oedd yn deg i ni i droi'r ysgol yna nawr, a'r plant yn diodde, falle, o achos hynny?"
Croesawu'r cyhoeddiad
Wrth groesawu'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Fe wnaethon ni alw am y mesur yn ein maniffesto ar ddechrau 2016 ac yn credu y bydd yn galluogi ysgolion i gynnig cwricwlwm eang a chefnogi effeithlonrwydd ariannol.
"Bydd cyflwyno £2.5m ychwanegol i ysgolion gwledig yn eu galluogi i ddatblygu dulliau dyfeisgar i ddarparu addysg mewn ardaloedd gwledig.
"Mae dosraniad ysgolion gwledig ar draws Cymru yn amrywio'n sylweddol, felly bydd cynnwys 'rhagdybiaeth i beidio cau ysgolion gwledig' yn cael effaith ar ddull pob awdurdod lleol o drefnu ysgolion. Bydd angen i ni felly drafod y mater ymhellach ac ystyried profiadau ardaloedd yn Lloegr sydd â pholisïau tebyg."
'Dal ar y cyfle'
Wrth groesawu datganiad Kirsty Williams, galwodd Cymdeithas yr Iaith ar arweinwyr Llywodraeth Leol i ymateb yn gadarnhaol, ac i "ddal ar y cyfle" i gyfrannu at barhad cymunedau gwledig.
Dywedodd Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Dathlwn y ffaith fod Kirsty Williams wedi perswadio'r Llywodraeth nad oes unrhyw fanteision addysgol i'w hennill o gau ysgolion na ellid eu cael trwy eu hannog i ddod ynghyd mewn ffederasiynau.
"Cyfle yn unig gawn ni drwy'r polisi newydd, ac mae popeth yn awr yn dibynnu ar ymateb cadarnhaol gan arweinwyr cynghorau.
"Ond byddwn ni fel cymdeithas yn anfon neges o ddiolch yr wythnos hon at y degau o gymunedau sydd wedi brwydro dros eu hysgolion yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Fe gafodd llawer ohonyn nhw eu siomi, ond mae eu hymdrechion wedi cynnig gobaith newydd i eraill."