Cerddorion yn anfon offerynnau i blant Patagonia

  • Cyhoeddwyd
Chris Stock a Sian Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Chris Stock, wnaeth feddwl am y syniad gwreiddiol, gyda Sian Lloyd a ffidil coch fydd yn mynd i Batagonia

Bydd offerynnau o Gymru yn cael eu hanfon 5,000 milltir i ffwrdd i blant ym Mhatagonia sy'n gorfod ymarfer gyda theganau ar hyn o bryd.

Pedwar cerddor o Gerddorfa Genedlaethol y BBC sydd y tu ôl i'r cynllun, ar ôl iddyn nhw ymweld â'r ardal yn ystod dathliadau 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig.

Yno fe welodd y trympedwr, y soddgrythor a'r ddau offerynnwr taro, blant yn dysgu i chwarae trwy ymarfer ar deganau offerynnol.

Roedd nifer o'r plant yn gwneud bongos eu hunain o fagiau plastig a phibelli.

'Dysgu ar drwmped plastig'

Mae'r syniad bellach wedi esblygu, gyda phobl yn cynnig bob math o offerynnau sydd wedi bod yng nghefn eu cypyrddau, gan gynnwys tri pâr o ddrymiau timpani, ffliwt, 200 ffidil a basŵn.

Dywedodd y trympedwr Rob Samuel: "Yn y gerddorfa ieuenctid doedd yna ddim timps o gwbl. Pan wnaethon ni ofyn pam dywedon nhw fod yna ddim timps ar gyfer ardal Chubut gyfan.

"Roedden nhw yn chwarae ar glockenspiels teganau a phethau fel yna. Mae hynny fel dysgu ar drwmped plastig."

Trying out a toy trumpet
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cerddorion ymweld ag ysgolion ym Mhatagonia y llynedd

Y cerddorion
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerddorion yn ceisio defnyddio popeth sydd yn cael eu hanfon atynt

Offerynnau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr offerynnau cyntaf yn mynd ddydd Sadwrn

Mae'r pedwar yn derbyn offerynnau sydd wedi eu torri ac yn eu trwsio neu eu gwerthu i artistiaid lleol, ac yna'n defnyddio'r arian i brynu offerynnau newydd.

Dywedodd un o'r cerddorion, Rachel Ford: "Rydyn ni'n gwneud y gorau o bopeth sydd yn dod mewn. Fe 'nawn ni ddarganfod ffordd o'u gwneud nhw'n ddefnyddiol ond dydyn ni ddim eisiau anfon stwff blêr i'r myfyrwyr.

"Rydyn ni eisiau anfon offerynnau da iddyn nhw ddysgu."

Fe fydd yr offeryn cyntaf, ffidil coch gan y gyflwynwraig Sian Lloyd, yn mynd o Gaerdydd i Drefelin ddydd Sadwrn.

Gobaith y cerddorion yw y bydd cannoedd o offerynnau eraill hefyd yn gallu cyrraedd Patagonia, gyda'r gweddill yn cael eu rhoi i blant mewn ysgolion yng Nghymru.