Beicio modur anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar gynnydd

  • Cyhoeddwyd
beicio oddi ar y ffordd
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod sydd yn cael ei wneud i'r tir

Mae gyrru beic modur yn anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn broblem gynyddol yng nghymoedd y de, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn gynharach ym mis Tachwedd fe gafodd 22 o bobl eu dal yn gyrru beiciau modur yn anghyfreithlon yn ystod ymgyrch ar y cyd gyda Heddlu'r De.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gweithred o'r fath yn ffurf ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol oherwydd y difrod a wneir i dir a'r bygythiad sydd 'na i'r cyhoedd.

Mae nifer o feicwyr yn dadlau bod ganddyn nhw yr un hawl â cherddwyr a phobl ar gefn ceffylau i ddefnyddio'r tir cyhoeddus.

Dywedodd rheolwr gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ne ddwyrain Cymru, Salley Tansey fod beicio oddi ar y ffordd nid yn unig yn broblem gynyddol ond hefyd ei bod yn fwy anodd cadw golwg arni.

Meddai: "Mae gweithredwyr masnachol yn dod â grwpiau mawr o bobl i'r tir a hynny am dâl - mae modd i grwpiau gyfarfod yn gyflym drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol."

Mae un o'r traciau prin ar gyfer beicio oddi ar ffordd yng Nghymru wedi'i leoli yn Ynysybwl yn Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiad,

Fideo o'r trac beicio modur oddi ar y ffordd yn Ynysybwl

Er bod y llwybr mynyddig yno ers yr 1960au dim ond wyth mlynedd sydd 'na ers i'r caniatâd llawn gael ei roi ar gyfer y beicio.

Yn ôl Chris Jones, perchennog trac Bull MX, mae modd datrys y broblem yn gymharol hawdd.

"Mae modd neilltuo ardaloedd a llwybrau penodol ar dir CNC - corff sy'n cael ei gyllido gan arian cyhoeddus - a chodi tâl ar ddefnyddwyr," meddai.

Ychwanegodd y byddai modd defnyddio'r arian a godir i gynnal y llwybrau a phrosiectau eraill.

"Os ydych yn gwerthu degau o feiciau bob blwyddyn ac os nag oes lle i'r beicwyr, yna rydych yn hybu gyrru beic modur yn anghyfreithlon."