'Hynod siomedig' bod dim cartref i Eisteddfod Powys 2017

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod PowysFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddi eisteddfod Powys yn Nyffryn Banw yn 1948

Mae Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wedi dweud wrth Cymru Fyw ei bod yn "hynod siomedig" ar ôl cael ar ddeall nad oes cartref i Eisteddfod Powys yn 2017.

Mae'r eisteddfod yn un o rhai hynaf Cymru, ar ôl cael ei chynnal am y tro cyntaf yn 1820, flwyddyn ar ôl eisteddfod dalaith enwog Ivy Bush yng Nghaerfyrddin.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Meifod yn 2015, ac mae rhai yn teimlo bod yr holl ymdrech aeth i mewn i'r ŵyl honno wedi gwneud yn llai awyddus i drefnu gwyl arall mor fuan wedyn.

Mae un o dderwyddon Eisteddfod Powys hefyd wedi galw am ddenu diddordeb pobl ifanc i'r ŵyl i sicrhau ei dyfodol.

'Steddfod hynod bwysig'

Dywedodd y cadeirydd, Megan Jones: "Ry'n wedi bod yn trafod gyda swyddogion Eisteddfod Powys ac ry'n yn hynod siomedig nad yw hi wedi bod yn bosib dod o hyd i le i'w chynnal flwyddyn nesaf.

"Mae hon yn 'steddfod hynod bwysig ac yn aml yn ymarfer da i gystadleuwyr cyn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Ry'n fel Cymdeithas wedi bod yn sobor o falch o bwyllgor yr eisteddfod ar hyd y blynyddoedd.

Ry'n yn cydymdeimlo yn fawr â hwy wrth gwrs, yn aml criw bach sydd 'na'n trefnu mewn ardal. Ry'n yn gobeithio yn fawr y bydd modd dod o hyd i ardal i'w chymryd yn 2018."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dawns y blodau yn Eisteddfod Powys

Dywedodd Huw Ceiriog, Derwydd Gweinyddol yr eisteddfod ei fod yn "gynyddol anodd dod o hyd i ardal i gynnal yr eisteddfod yn enwedig os yw'r ardal wedi bod ynghlwm â digwyddiad megis yr Eisteddfod Genedlaethol".

"Roedd pethau tipyn yn wahanol yn y 19eg ganrif pan oedd gwŷr bonheddig fel Syr Watkin Wynn yn cynnig pum gini yng nghystadleuaeth yr englyn.

"Rhaid i ni hefyd ddenu pobl ifanc i gymryd diddordeb, mae pobl hŷn yr ardaloedd yma wedi gwneud diwrnod da o waith yn ei chynnal ar hyd y blynyddoedd.

"Er i ni lwyddo i gael Eisteddfod Powys yng Nghroesoswallt eleni, mae Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015 wedi gwneud hi'n anodd i ddenu ardal yn 2017 gan fod pawb wedi bod yn brysur yn hel arian at yr Ŵyl Genedlaethol.

"Mi lwyddodd Croesoswallt yn rhyfeddol gyda help Cymrodoriaeth Eisteddfod Taleithiol a Chadair Powys, sef pwyllgor canolog a fu'n cynorthwyo i drefnu beirniaid a gosod testunau, ond y gobaith yw peidio cael yr eisteddfod yn rhy ddibynnol ar y Gymrodoriaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Beryl Vaughan oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2015

Beryl Vaughan oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meifod, a dywedodd ei bod hi'n "cydymdeimlo yn fawr" gyda phwyllgor Eisteddfod Powys.

"Y gobaith oedd y byddai'r Drenewydd yn medru cymryd yr eisteddfod ond dwin'n deall yn iawn nad oedd yr ardal yn awyddus iawn y tro hwn, mi weithiodd y criw yn ddygn iawn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meifod a chriw bach sy' 'na ohonyn nhw," meddai.

"Yn fy marn i mi ddylai'r Gymrodoriaeth fod â rhan mwy blaenllaw. Mi fyddai hynna'n hwyluso'r gwaith i bobl leol."

Disgrifiad,

Beryl Vaughan y nsiarad ar y Post Cyntaf, Rado Cymru

Angen trefn newydd

Ond dywedodd Cofiadur Eisteddfod Powys, Edwin Hughes, ni ddylid rhoi gormod o bwysau ar y Gymrodoriaeth: "Dwi'n siomedig iawn nad ydym wedi dod o hyd i le i gynnal yr eisteddfod ond efallai ei bod yn bryd meddwl am ffyrdd newydd o drefnu Eisteddfod Powys."

Er nad oes penderfyniad terfynol hyd yma, y gobaith yw cynnal digwyddiad yn Llanfair Caereinion ar benwythnos olaf Hydref 2017 yn lle'r eisteddfod.

Y gobaith yw y bydd y digwyddiad hwnnw yn cynnwys gweithdai gwerin a chyfle i grwpiau ifanc yr ardal berfformio.