Band eang tra chyflym i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
BT engineer on telegraph pole with BT van and logo in forefront of the imageFfynhonnell y llun, PA

Mae BT wedi cyhoeddi mai Abertawe fydd yr ardal gyntaf yng Nghymru i dderbyn band eang tra chyflym.

Fe fydd cangen Openreach o'r cwmni yn cysylltu miloedd o safleoedd yn y ddinas yn ystod 2017.

Mae hyn yn dilyn cyfnod prawf i'r dechnoleg ym mis Mai y llynedd.

Fe ddywed Cyngor Abertawe y bydd hyn yn galluogi busnesau i dyfu, ond mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi pwysleisio bod angen gwella cysylltiadau mewn ardaloedd gwledig yn ogystal.

Mae band eang tra chyflym yn cynnig cyflymder o hyd at 330 Mb yr eiliad - mwy na deg gwaith yn gyflymach na'r cyfartaledd i'r DU.

'Newyddion gwych'

Roedd y ddinas yn un o 17 ardal ar draws y DU i gael eu dewis fel rhan o gynllun peilot.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe ac yn cefnogi ein hymgais i sicrhau bod gan y ddinas isadeiledd digidol sy'n galluogi busnesau i dyfu'n gyflym.

"Bydd hefyd yn ategu ein cynlluniau i gyflwyno ardal ddigidol i'r ddinas fel rhan o'r argymhellion Arfordir y Rhyngrhwyd i'r Ddêl Ddinesig."

Ychwanegodd gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru Julie James AC: "Wrth i ni barhau i gystadlu yn fyd-eang, mae gan fand eang tra chyflym i potensial i ddod â mwy fyth o fuddion i Gymru felly mae'n dda gweld i buddsoddiad a dyfeisgarwch yma yn y diwydiant."

Ffynhonnell y llun, David Dixon/Geograph

Ond mae pryderon wedi eu lleisio eisoes am y bwlch digidol rhwng ardaloedd gwledig Cymru a gweddill y wlad.

Yn gynharch yn y mis, fe wnaeth Aelodau Cynulliad feirniadu ehangu cynllun Superfast Cymru, gan ddweud nad oedd wedi cyflawni.

Dywedodd Ben Cottam o Ffederasiwn y Busnesau Bach y byddai band eang tra chyflym yn Abertawe yn "caniatáu i fusnesau dyfu".

Ond ychwanegodd: "Er ein bod yn croesawu'r gwaith sydd wedi ei wneud i ddatblygu'r lefel nesaf o fand eang, fe ddaw mewn cyfnod lle mae rhannau o Gymru hefyd â lefelau mwyaf sylfaenol o gyflymder band eang.

"Mae elfan o fod angen cropian cyn cerdded yn y fan hyn.

"Efallai bod dinas Abertawe ac ardal y bae â chysylltiadau da, ond rhaid i ni sicrhau bod yr isadeiledd hanfodol yma ar gael mewn ardaloedd gwledig cyfagos, ac ar draws Cymru gyfan."