Her: Gofalwraig 10 oed yn rhannu profiad
- Cyhoeddwyd
Mae Barnardo's Cymru yn gofyn i bobl gefnogi plant fel Jessica Benger yn 'Her Nadolig y Rhoi Mawr'.
Dywedodd Jessica, Cymraes rhugl o Gaerffili, wrth Cymru Fyw ei bod yn edrych ar ôl ei chwiorydd tra bod ei mam yn gorfod rhoi y rhan fwyaf o sylw i'w chwaer sydd â'r cyflyrau Asperger's ac ADHD.
Her Nadolig y Rhoi Mawr yw ymgyrch gyllid cyfatebol fwyaf y DU sy'n dechrau am 12:00 ddydd Mawrth, 29 Tachwedd, ac yn para am 72 awr.
Bydd unrhyw gyllid a fydd Barnardo's yn ei dderbyn yn mynd tuag at y grwpiau Gofalwyr Ifanc. Mae bron i 1,200 o ofalwyr ifanc ledled Cymru'n cael help gan yr elusen.
Mae'r arian yn mynd at drefnu tripiau, cyfarfodydd rheolaidd gyda gofalwyr eraill a chwnsela.
Un a allai elwa yw Jessica. Mae hi'n cael cefnogaeth Gofalwyr Ifanc Caerffili, grŵp sy'n cael ei weithredu gan Barnardo's Cymru a'i gyllido gan Raglen Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili a Gwasanaethau Plant Caerffili.
'Rhy ifanc i ddeall'
"Rwy'n ddeg oed," meddai Jessica wrth Cymru Fyw, "ac mae gen i dair chwaer. Mae gan fy chwaer 7 oed Asperger's ac ADHD. Golyga hynny bod yn rhaid i mam dreulio llawer o amser gyda hi yn enwedig yn ei chyfnodau gwaethaf.
"Weithiau rhaid i mam aros gyda hi am oriau.
"Mae'n eitha anodd gan fod yn rhaid i fi gadw fy chwiorydd iau o'r ffordd. Mae nhw yn 5 a 3 oed.
"Rwy'n hapus iawn fy mod yn gallu helpu mam ond rwy' hefyd yn ofnus iawn. Rwy' hefyd yn gobeithio nad yw fy chwiorydd bach yn gwneud rhywbeth i waethygu'r sefyllfa.
"Weithiau byddaf yn dal eu dwylo ac yn sibrwd wrthyn nhw be sy'n bod. Mae nhw'n rhy ifanc i ddeall. Weithiau mae strancio fy chwaer sâl yn para am oriau."
Meddai llefarydd ar ran Barnardo's Cymru: "Mae'r grwpiau Gofalwyr Ifanc yn rhoi cyfle i blant gyfarfod â phlant eraill sy'n wynebu heriau tebyg, fel eu bod nhw'n teimlo'n llai ynysig.
"Mae hefyd yn rhoi seibiant iddyn nhw oddi wrth eu cyfrifoldebau a chyfle i fod yn blant.
'Siarad yn bwysig'
Dywedodd Jessica: "Mae bod yn rhan o Ofalwyr Ifanc Barnardo's yn golygu fy mod yn cael hoe. Maen nhw'n trefnu tripiau ac rwy'n cael amser i fi fy hun er mwyn siarad a rhannu profiadau. Rwy' wir yn mwynhau e.
"Dwi hefyd yn cael cwrdd â phlant tebyg i fi fy hun. Dwi'n gallu siarad â nhw ac mae nhw'n deall."
Meddai Barnardo's: "Yn ddiweddar roedd 'na gyfle i nifer o ofalwyr ifanc fynd i adeiladu eirth yng Nghaerdydd ac mi roedd arian tebyg i'r hyn a fydd yn cael ei godi ar gyfer Her Nadolig y Rhoi Mawr yn ddefnyddiol iawn gan ei fod wedi talu am y drafnidiaeth i Gaerdydd.
"Heb hynny ni fyddai'r gofalwyr ifanc wedi gallu mynd yno."
Mae'r ymgyrch yn dechrau am 12:00 ddydd Mawrth ac yn para tan 12:00, dydd Gwener, 2 Rhagfyr. Bydd Barnardo's yn dyblu'r rhoddion tra bo'r cyllid cyfatebol yn para.