Iaith y rhifau

  • Cyhoeddwyd
abacus

Sut fyddech chi'n darllen y ffigwr 18 ar lafar - 'deunaw' neu 'un deg wyth'? Be' am 37 - 'dau ar bymtheg ar hugain' neu 'tri deg saith'?

Gyda chanlyniadau PISA yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth 6 Rhagfyr, mae'n debyg mai blaenoriaeth ysgolion Cymru ydy cael plant i ddefnyddio rhifau'n iawn, yn hytrach na'u dysgu i ddweud rhifau mewn ffordd benodol.

Ond oes yna beryg ein bod ni'n aberthu ein traddodiad a'n hunaniaeth am ein bod ni'n chwilio am ffyrdd haws o adrodd rhifau yn yr 'hen ddulliau Cymreig a Chymraeg'?

Fel yr eglurai Gareth Ffowc Roberts yn y Faner Newydd fis diwetha': "Mae dau ddull o rifo yn Gymraeg - y dull traddodiadol ugeiniol a dderbyniodd fendith William Morgan yn ei gyfieithiad o'r Beibl yn 1588 a'r dull degol y gellir olrhain ei ddechreuadau i flynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg".

Mae Mr Roberts yn tynnu ein sylw at adroddiad newyddion o ddechrau'r 70au, sydd i'w weld a'i glywed yma:

Disgrifiad,

Geraint Wyn Davies yn gohebu i raglen deledu Heddiw wrth i'r M4 gael ei hymestyn ar ddechrau'r 70au. Allwch chi gadw cofnod o'r rhifau sy'n cael eu hadrodd yma?

"Pawb yn glir? Rhag ofn nad ydych yn gwbl sicr, y rhifau dan sylw oedd 36 biliwn (sef mil miliwn) tunnell o bridd, 166 peiriant, 162 pont a £48,816,593," meddai Gareth Ffowc Roberts.

"Tybed a gafodd Geraint Wyn Davies ei swyno gymaint gan y dull traddodiadol fel ei fod wedi methu gyda nifer y tunelli o bridd? Byddai 36 miliwn o dunelli o bridd yn fwy rhesymol na 36 biliwn."

Coethder iaith

Roedd John Ifans yn sylwebydd chwaraeon i'r BBC am flynyddoedd, ac mae'n credu bod lle i ddefnyddio'r hen ddull traddodiadol yn y cyfryngau.

"Pan oeddwn i'n sylwebu ar griced a snwcer yn y 60au a'r 70au doedd dim problem o gwbl," meddai. "Pan roedd chwaraewr snwcer ar ganol rhediad, roedd e'n saith ar bedwar hugain yn aml iawn.

"O'dd e'n ymdrech ar y dechre fel dechreues i ddarlledu. Ond rhywbeth personol oedd e i fi. Yn Nhregaron, ble o'n i'n byw, thirty-seven oedd e'n aml iawn yn yr 1940au a'r 50au - bydde neb byth yn dweud tri deg saith, heb sôn am dau ar bymtheg ar hugain.

"Yn bersonol does dim lot o wahaniaeth 'da fi. Bydd y clustie yn agor os glywaf i dau ar bymtheg ar hugain, ond rwy' i ddim yn credu bydd y wyrion a'r wyresau yn dweud hynny.

"Odd e'n ymdrech nes i'n bersonol. Rwy' ddim yn trio ymhyfrydu yn fy hun o gwbl. Ond beth yw rôl y darlledwr? Yw e fod i ddangos ei hun yn glyfar? Nid dyna oedd fy mwriad i o gwbl. Gwneud pwynt o'n i fod cyfoeth iaith i'w gael 'da ni a bod ffordd wahanol o ddweud tri deg naw, sef pedwar ar bymtheg ar hugain."

Disgrifiad o’r llun,

"Os ga'i hon i fewn, mi fydda i bump a thrigain ar y blaen..."

Iaith sy'n hawdd i'w deall

Mae Aled Glynne Davies yn gyn-olygydd Radio Cymru ac yn credu'n gryf bod rhaid gwneud y newyddion yn ddealladwy i gynifer o bobl â sy'n bosib.

"Mi ddechreuodd pan o'n i yn f'arddega'," meddai. "Roedd 'na newyddion radio yn Gymraeg ac yn Saesneg o gwmpas yr un o'r gloch bryd hynny - un yn dilyn y llall. Roedd hyn cyn dyddia' Radio Cymru. A dwi'n cofio'n iawn - er mai Cymraeg oedd fy iaith gynta' i, mi wnes i ddallt y bwletin Saesneg yn well na'r bwletin Cymraeg. Dwi'n cofio penderfynu bryd hynny fy mod i isio bod yn newyddiadurwr - ac y baswn i wrth fy modd yn sgwennu newyddion mewn iaith oedd pawb yn ei dallt.

"Y gwir ydy, ma' gan bawb hawl i ddallt newyddion. Os nad wyt ti'n sgwennu bwletinau newyddion ma' pawb yn eu deall, yna dwi'm yn credu dy fod yn g'neud dy waith yn iawn."

Pan ddaeth yn uwch-gynhyrchydd Newyddion S4C, fe gyflwynodd Aled Glynne ganllawiau iaith oedd yn annog defnydd o "Gymraeg bob dydd". Yna wedyn, pan gafodd swydd golygydd Radio Cymru tua chanol y 90au, fe 'sgrifennodd lyfryn mewnol ar ddefnydd iaith.

Beth felly am y defnydd o rifau? Pam ddim dweud, er enghraifft, dau ar bymtheg ar hugain?

"Mae pawb yn gwbod be' 'di 'tri deg saith'," meddai Aled Glynne. "Yn sicr pan ti'n mynd mewn i'r tridegau, pam fysa rhywun yn d'eud 'un ar ddeg ar hugain' yn hytrach na 'tri deg un' - heblaw, wrth gwrs, i swnio'n posh!

"Os yn paratoi rhaglenni neu gylchgronau at gynulleidfa benodol lle ma' pobl yn gyfarwydd ag 'un ar bymtheg ar hugain', wel iawn, wrth gwrs. Ond yn gyffredinol, er mwyn apelio at amrywiaeth o bobl, does 'na ddim byd o'i le efo 'tri deg chwech'.

"Dwi'n credu fod pobl yn cael eu gwthio i ffwrdd oddi wrth y Gymraeg wrth ddefnyddio iaith gymhleth - a dydw i wir ddim yn meddwl y gallwn ni fforddio g'neud hynny.

"Ac yn ôl at y cwestiwn am 37. Dydw i ddim yn credu y byddai llawer o bobl sy'n dathlu eu pen-blwydd yn dri deg saith yn d'eud yn y dafarn leol eu bod nhw'n ddwy ar bymtheg ar hugain mlwydd oed."

Disgrifiad o’r llun,

Bron i ddeugain mlynedd 'ta pedwar deg mlynedd ers sefydlu Radio Cymru?

Traddodiad neu ymarferoldeb?

Ond beth felly am ein hysgolion ni? Sut ddylai'r genhedlaeth nesa' gael eu dysgu?

Mae Eirlys Pritchard Jones yn gyn-brifathrawes sydd bellach yn ymgynghorydd addysg. "Yn ymarferol ein arferion ni erbyn hyn yw i blant ddysgu yn y ffordd hawdd gan fod canrannau o ddysgwyr o fewn yr ysgolion yn uchel iawn," meddai.

"Mae'n fwy ymarferol i ddysgu ffordd newydd - ffordd Saesneg rwy'n cydnabod - o gyfri nag yw e i ddysgu'r ffyrdd traddodiadol Gymraeg. Ar y llaw arall fydden i'n ceisio anelu at sicrhau bod y ffurfiau traddodiadol yn cael eu defnyddio pan fo rhywun yn cyrraedd rhyw oedran.

"Lle bynnag byddai'r ffyrdd yn amharu ar gynnwys yr addysg bydden i'n defnyddio'r ffordd hawsaf ond bydden i'n lico gweld parhad gyda'r hen ffurfiau. Dwi'n meddwl bod 'na gyfoeth mewn traddodiad, ac o fewn ein treftadaeth, ond mae ymarferoldeb yn gorfod cael dylanwad hefyd.

"Lle mae'r apêl at gynulleidfa eang yn y cwestiwn, yr hyn sy'n ddealladwy sy'n gorfod cael blaenoriaeth. Dwi'n gyson yn defnyddio'r hen ffurfiau ond mae 'na gyd-destun lle mae'r ffyrdd newydd yn fwy priodol.

"Mae'n rhan o gyfoeth ein hiaith ni a fydden i ddim eisiau'r ffyrdd hynafol i ddiflannu ond bydden i ddim, er enghraifft, yn gweld neb yn dweud 'cant namyn un'. Mae'r cysyniad o'r namyn yn rhywbeth sydd yn ddiarth heddiw. Yn ysgrifenedig, mae'n haws i barhau'r math yna o beth nag ar lafar."