Lansio ymgyrch atal yfed a gyrru Cymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
alcohol a goriad carFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae heddluoedd Cymru wedi lansio'u hymgyrch flynyddol i atal pobl rhag gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau cyn y Nadolig.

Gyda'r gyfraith wedi newid ers y gwanwyn eleni, bydd gyrwyr yn cael profion am alcohol a chyffuriau am y tro cyntaf dros gyfnod yr ŵyl.

Yn ystod mis Rhagfyr y llynedd fe gafodd bron 23,000 o yrwyr eu profi am alcohol yn ystod yr ymgyrch.

Bydd ymgyrch eleni yn cael ei lansio yn ddiweddarach ddydd Iau ym Merthyr Tudful.

Heddlu De Cymru sy'n arwain yr ymgyrch yn 2016 ar ran y pedwar llu heddlu yng Nghymru a'u partneriaid, Diogelwch Ffyrdd Cymru.

Fe wnaeth dros 500 o yrwyr fethu prawf alcohol yn ystod ymgyrch 2015, ac fe gafodd bron 100 arall eu harestio am yrru dan ddylanwad alcohol.

Datgelodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw hefyd yn cynnal profion ar hap ar eu swyddogion eu hunain am alcohol a chyffuriau, gyda phob un hyd yn hyn yn negyddol.

Ffynhonnell y llun, PA

Yn ystod ymgyrch 2015, Heddlu'r De oedd â'r ffigyrau mwyaf siomedig gyda 205 o'r 4,409 a brofwyd yn methu prawf anadl - canran o 4.6%.

Yn ardal Heddlu Gwent, fe wnaeth 47 fethu'r prawf, ond gan mai ond 1,100 o yrwyr gymrodd y prawf, roedd y canran o fethiant yn 4.2%.

Cafodd 8,378 eu profi yn ardal Dyfed Powys gyda chanran o ychydig llai na 2% - sef 164 - yn methu.

Heddlu'r Gogledd oedd â'r canlyniadau gorau mewn sawl ffordd. Yno y cafodd y nifer fwyaf o brofion eu cynnal - 8,894 - ond hefyd y canran isaf o brofion positif oedd yn llai nag 1%.