Pencampwriaeth Futsal Prydain yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes yn cael ei greu yng Nghaerdydd y penwythnos hwn wrth i dimau Futsal rhyngwladol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gystadlu ym Mhencampwriaeth Futsal Prydain am y tro cyntaf.
Fe fydd y pedair gwlad yn cystadlu yn erbyn ei gilydd dros gyfnod o dridiau yng nghanolfan dan-do clwb pêl-droed Caerdydd.
Bydd y gystadleuaeth yn dilyn rheolau FIFA ac UEFA gyda'r pedwar tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith ar ffurf cynghrair.
Yn dilyn misoedd o waith trefnu, gobaith y trefnwyr yw cynnal y bencampwriaeth yn flynyddol o hyn allan.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Richard Gunney bod "chwarae cystadleuaeth fel hyn yn flynyddol yn gyfle gwych i'r timau rhyngwladol ddod at ei gilydd er mwyn datblygu'r gêm ymhellach yn y pedair gwlad".
Beth yw Futsal?
Math o gêm bêl droed 5 pob-ochr a sefydlwyd yn Ne America yw Futsal.
Yn dilyn prinder caeau pêl-droed yng ngwledydd Brasil ac Uruguay fe benderfynodd chwaraewyr ffurfio gêm lai o ran maint ble roedd modd chwarae ar y stryd.
Mae'r enw Futsal yn tarddu o'r Sbaeneg am 'Bêl-droed Lolfa.'
Mae rheolau Futsal yn debyg iawn i reolau pêl-droed arferol, ond mae'r bêl yn llai o ran maint sy'n gorfodi chwaraewyr i basio yn fwy cywir ac i gadw gwell rheolaeth ar y bêl.
Mae gêm wedi ei rhannu i ddau hanner o 20 munud yr un. Gogledd Iwerddon fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru, nos Wener gyda'r gic gyntaf am 19:30.
Mae Rico Zulkarnain yn wreiddiol o Gasnewydd ac ar hyn o bryd mae'n chwarae Futsal i Melbourne yn Awstralia.
Mae'r gêm yn boblogaidd iawn yn Awstralia ac yn denu enwau mawr y byd pêl-droed megis Falcao o Brasil a Ricardinho o Bortiwgal.
Dywedodd Zulkarnain: "Dwi'n chwarae pêl-droed gorau fy mywyd ers i mi symud i Melbourne a dwi'n gobeithio parhau â'r safon yn y gystadleuaeth a sgorio digon o goliau."
Ar ôl herio Gogledd Iwerddon nos Wener, bydd Cymru wedyn yn wynebu'r Alban ddydd Sadwrn ac yn chwarae Lloegr yn ei gêm olaf brynhawn Sul.