Cynnydd mawr yn y gwariant ar feddygon locwm
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwariant ar ddoctoriaid locwm yng Nghymru wedi cynyddu 114% yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Cafodd un meddyg locwm ei dalu £183,000 yn 2015/16, yn ôl y ffigyrau gafwyd o gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd wedi talu'r doctor locwm wnaeth ennill y mwyaf, a'r ail mwyaf - £159,000.
Fe wnaeth cyfanswm y gwariant ar weithwyr sydd ddim yn rhai parhaol gan yr ymddiriedolaethau a'r byrddau iechyd wnaeth ymateb gynyddu 114% o £64m i £137m ers 2013/14.
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) bod angen cynllunio yn well "ar frys".
Cais rhyddid gwybodaeth
Yn 2015/16, fe enillodd un doctor locwm ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr £137,000, fe dalodd Powys £116,000 i un meddyg, tra bod Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi talu £70,000 i un locwm am y flwyddyn.
Fe wrthododd Bwrdd Iechyd Hywel Dda â datgelu faint yr oedden nhw wedi ei dalu i'r doctor locwm wnaeth ennill mwyaf.
Dywedodd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Cwm Taf a Chaerdydd a'r Fro nad oedd ganddyn nhw'r wybodaeth.
Mae'r ganran o gyfanswm gwariant byrddau iechyd ar lafur sy'n cael ei roi tuag at staff locwm yn amrywio o 3.69% (Powys) i 6.31% (Betsi Cadwaladr).
'Cynllunio gwael'
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru), Dr Phil Banfield, er bod problemau recriwtio yn rhannol yn egluro'r cynnydd yn y gwariant ar ddoctoriaid locwm, bod "arferion drwg a chynllunio gwael" hefyd ar fai.
"Gallai'r apêl o yrfa fel locwm gael ei weld fel ymateb i'r diffyg apêl o swydd barhaol gyda'r GIG ar hyn o bryd, gyda doctoriaid yn delio gyda phwysau gwaith gormodol a diffyg hyblygrwydd yn eu patrymau gweithio," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i fyrddau iechyd wella eu cynllunio ar frys i sicrhau nad yw diffyg doctoriaid yn effeithio ar ofal, allai fod wedi cael ei osgoi."
Dywedodd cyfarwyddwr Cyflogwyr GIG Cymru, Richard Tompkins bod defnydd doctoriaid locwm yn "allweddol" i'r gwasanaeth.
"Maen nhw'n cael eu defnyddio i lenwi bylchau, pan all staff fod i ffwrdd ar famolaeth neu â salwch hirdymor, neu i sicrhau ein bod yn gallu cynnal gwasanaethau diogel pan fod angen help ar fyr rybudd," meddai.
"Cynnal safon gofal cleifion yw ein blaenoriaeth ac mae staff asiantaeth a locwm yn gallu bod yn allweddol i gynyddu lefelau staffio i helpu delio â'r galw pan fo'n cynyddu."
'Cyfran fechan'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn cydnabod bod "heriau gwirioneddol" o ran recriwtio a chadw staff meddygol, ond nad yw hyn yn "unigryw i Gymru".
"Rydyn ni'n gwybod bod y defnydd o staff asiantaeth a locwm wedi cynyddu ar draws Gymru, ond maen nhw'n parhau i gynrychioli cyfran fechan o'n staff iechyd rheng flaen," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n gweithio gyda'r GIG i fynd i'r afael â'r defnydd o staff asiantaeth ar draws y GIG yng Nghymru a lleihau'r galw amdanynt ar draws pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth."
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd nac erioed.