Ffrae am ddyfodol ysgol newydd Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi codi rhwng Cyngor Gwynedd a'r Eglwys yng Nghymru ynglŷn â'r ysgol eglwysig newydd sy'n cael ei chodi yn Y Bala.
Mae'r gwaith yn prysuro yn ei flaen i adeiladu campws newydd i blant tair i 19 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Y cynllun ydi i uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant, sy'n Ysgol Eglwys efo'r ysgol uwchradd.
Mae'r eglwys yn dweud eu bod nhw'n hollol ymroddedig i'r ysgol newydd, ond mae'r Cyngor yn dweud eu bod wedi derbyn llythyr yn dweud nad ydi'r Eglwys yn cefnogi'r cynllun yn ei ffurf bresennol a'i fod o bosib yn mynd i ymgynghori eto ar y statws eglwysig.
Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas: "Da' ni di derbyn llythyr gan yr eglwys yn dweud eu bod nhw ddim yn cefnogi'r cynllun fel ag y mae o ac mae yna ddau reswm am hynny - un ydy adeiladau yr ysgol bresennol, Ysgol Beuno Sant, a dy' rheiny ddim yn rhan o'r cynllun, ac maen nhw'n credu y dylan nhw fod, ond hefyd pwy sy'n hyrwyddo'r cynllun. Maen nhw'n credu mai nhw ddyla wneud, wrth gwrs."
Bydd cabinet y cyngor yn cwrdd ddydd Mawrth 13 Rhagfyr i drafod a ddylid ailddechre'r broses ymgynghori ar statws eglwysig y campws newydd.
Roedd na wrthwynebiad mawr yn lleol yn erbyn y statws a byddai croeso gan y gwrthwynebwr pe byddai'r cyngor yn ail edrych ar y mater.
Un sy'n gwrthwynebu'r statws eglwysig yw Dylan Jones: "Mae pobl wedi mynegi eu barn ym Mhenllyn yn eu cannoedd, mewn llythyrau a chardiau ac mewn deiseb, eu bod nhw eisio ysgol gymunedol.
"Dy' nhw ddim yn erbyn ysgol eglwysig fel y cyfryw, ond maen nhw eisiau ysgol y maen nhw'n medru teimlo'n rhan ohono fo."
Ymateb yr Eglwys
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw'n bendant o blaid y cynllun fel ag y mae ac yn gobeithio cwrdd yn fuan efo swyddogion Cyngor Gwynedd i drafod unrhyw gamddealltwriaeth.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i hymrwymo'n llwyr i ddatblygu campws dysgu 3-19 newydd yn Y Bala a dydy hi ddim wedi 'tynnu'n ôl' o'r prosiect.
"Fedrwn ni ddim deall pan fod Cyngor Gwynedd wedi dod i'r casgliad hwn a gofynnwn am gyfarfod brys wyneb yn wyneb i ddatrys y camddealltwriaeth hwn.
"Mae Cyngor Gwynedd wedi nodi bod hyrwyddo'r ysgol yn broblem, ond mae Esgobaeth Llanelwy yn sicr o'r farn nad ydy hyn yn rheswm i roi'r gorau i'r cynnig presennol ac wedi cynnig sawl ffordd ymlaen."
"Yn ei holl ohebiaeth gyda Chyngor Gwynedd, mae Esgobaeth Llanelwy wedi pwysleisio'i dymuniad i weithio ar y cyd ac wedi gofyn droeon i gael cyfarfod â swyddogion. Dydy Esgobaeth Llanelwy ddim yn deall pam na fu hyn yn bosib.
Mae'r Eglwys yng Nghymru bellach yn annog Cyngor Gwynedd yn daer, i gyfarfod ag Esgobaeth Llanelwy ar y cyfle cyntaf yr wythnos hon, er mwyn datrys y camddealltwriaeth hwn, fel y gall pawb ohonon ni ailgyfeirio'n ffocws at gyflwyno prosiect llwyddiannus i bobl ifanc a chymuned Y Bala."
Yn y cyfamser, dywed Cyngor Gwynedd y bydd cynllun campws newydd Y Bala yn bendant yn cael ei gwblhau beth bynnag fydd ei statws terfynol.
Mewn datganiad maent yn dweud: "Mae Cyngor Gwynedd o'r farn nad oes unrhyw gamddealltwriaeth wedi bod yn dilyn derbyn llythyr gan gyfreithwyr ar ran Esgobaeth Llanelwy ym mis Medi.
"Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eglurhad llawn o safbwynt yr Eglwys yng Nghymru dros y dyddiau nesaf."