'Abertawe'n rhy fach i system tramiau' yn ôl arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Fe allai poblogaeth Abertawe fod yn rhy fach i gynnal system tramiau neu monoreilffordd, yn ôl arbenigwr trafnidiaeth.
Mae'r Athro Stuart Cole wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o greu rhwydwaith o'r fath er mwyn lleihau nifer y ceir ynghanol y ddinas.
Ond mae'n dweud bod y boblogaeth o 242,000 yn rhy fach, ac yn golygu y byddai'r system yn ddibynnol ar gymorthdaliadau.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, nad ydi e wedi adolygu'r adroddiad eto.
Bargen ddinesig
Fe allai nifer y bobl sy'n teithio i ganol Abertawe gynyddu pan fydd bargen ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwyddo.
Mae'r cyngor eisoes yn delio â thagfeydd cyson ar rai o'r ffyrdd sy'n arwain i'r ddinas.
Mae'n debyg bod cynghorwyr yn ffafrio system tramiau, ond dywedodd yr Athro Cole y byddai'n well ganddo weld rhwydwaith fysiau newydd.
"Does gan Abertawe ddim yr un nodweddion â chanol Caerdydd neu Bordeaux sy'n denu llawer o deithwyr yn ddyddiol", meddai.
"Byddai [system tramiau] yn costio cannoedd o filoedd o bunnau ond faint o arian sydd ar gael a sut byddai'n cael ei dalu?"
Dywedodd y byddai system bysiau newydd, wedi ei seilio ar systemau yn Nulyn a'r Iseldiroedd, yn helpu i leddfu'r tagfeydd ar y ffyrdd.
"Roedd fy adroddiad o system bysiau yn eithaf rhad ac yn realistig yn y tymor byr," meddai.