Caerffili: Cadarnle Llafur ers 1918, ond pethau'n 'wahanol' y tro hwn

Ann Lewis yn sefyll y tu allan i gastell Caerffili.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bleidlais yma'n "wahanol iawn" i etholiadau arferol Caerffili, yn ôl Ann Lewis

  • Cyhoeddwyd

Mae sawl etholiad wedi bod ers i Ann Lewis symud i Gaerffili i fyw 40 mlynedd yn ôl, ond yr un canlyniad sydd wedi bod yma bob tro.

"Ym mhob un mae hi wedi bod yn gwbl glir o'r dechre bod y Blaid Lafur yn mynd i ennill," meddai, "doedd dim gwerth aros lan i wrando ar ganlyniadau."

"Ond mae'r etholiad yma yn wahanol iawn, yn ddiddorol iawn, achos fe allai fynd i fwy nag un cyfeiriad."

Daeth Ann i gwrdd â fi y tu allan i fynedfa castell Caerffili - castell mwyaf Cymru yn un o gaerau hanesyddol Llafur.

Llafur sydd wedi mynd â hi yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth yn 1918, a phob etholiad i Fae Caerdydd ers y cyntaf yn 1999.

Ac yn wir, yn yr etholiad datganoledig diwethaf yn 2021 fe enillodd yr aelod Llafur Hefin David gyda'r mwyafrif mwyaf yng Nghaerffili ers dechrau datganoli.

Ond yn dilyn marwolaeth sydyn Mr David ym mis Awst, ydy'r hanes hir yna o lwyddiant ar fin dod i ben?

Llun o gastell Caerffili ar ddiwrnod brafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i Lafur ers 1918

Gyda'r arolygon barn diweddar ar gyfer yr etholiad i Senedd Cymru ym mis Mai yn tueddu i awgrymu taw Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen, mae'r ddwy blaid honno'n gweld cyfle euraid i brofi pwynt pan ddaw'r isetholiad ar 23 Hydref.

A gyda Llafur o dan warchae yn ôl yr arolygon barn - yng Nghymru a thrwy Brydain - mae yna lawer yn y fantol i Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan a Phrif Weinidog Prydain Keir Starmer hefyd.

Does ryfedd felly bod yr ymgyrchu yng Nghaerffili wedi bod yn "bur wahanol i'r arfer", yn ôl Ann Lewis, gyda "ffigyrau mawr" wedi bod yn curo ar ddrysau.

Ond beth yw'r pynciau trafod ar garreg y drws?

Aneurin Minton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aneurin Minton yn teimlo bod "angen rhywbeth newydd"

Yn ôl Siôn Dafydd, myfyriwr o bentref Nelson, mae pobl eisiau gweld trafnidiaeth a iechyd "yn gweithio".

"Mae teimlad o austerity parhaol yn y gymuned... ac mae teimlad o ddirywiad yn y gymuned."

"Mae pobl just yn teimlo wedi blino," meddai Aneurin Minton o Benpedairheol.

"Ni'n teimlo yng Nghaerffili, a dros Brydain really... bod Llafur wedi ein methu ni a ni angen rhywbeth newydd."

Costau byw, llwybrau bysus a dyfodol y llyfrgelloedd lleol yw'r prif pynciau llosg, yn ôl Aneurin, sy'n cydnabod bod mewnfudo hefyd yn destun pryder i rai.

Llun o Alan Parry Tomos y tu allan i gaffi Rosita's yng nghanol Caerffili.
Disgrifiad o’r llun,

Mae tref Caerffili "ar i fyny", yn ôl Alan Parry Tomos

O gaffi Rosita's yng nghanol tref Caerffili, mae golygfa wych o'r castell sy'n denu ymwelwyr o bob cwr.

Mae'r rheolwr, Alan Parry Tomos, wedi croesawu twristiaid o Shanghai, Los Angeles a'r Caribî yn ddiweddar.

Mae'r dref "ar i fyny", yn ôl Alan, gyda nifer o fwytai a bariau newydd wedi agor a gwaith cynnal a chadw ar y castell hefyd wedi ei gwblhau.

Ond fel un sy'n teithio i Gaerffili o Gaerdydd bob dydd, mae am weld gwelliannau i'r cysylltiadau trafnidiaeth.

"Mae'r trên yn ideal - mae'n cymryd chwarter awr o ganol Caerdydd i ddod yma.

"Ond wedyn ar lot o'r amseroedd maen nhw'n rhoi bws yn lle trên achos bod yna broblem efo'r lein felly tasa nhw'n gallu sortio hwnna ella fasa lot mwy o fusnes a pobl yn gweld hi'n haws dod i fewn i Gaerffili."

Nôl wrth y castell mae Ann yn dweud bod yna deimlad bod y blaid Llafur "wedi cael ei chyfle".

Yn debyg i dwr enwog y castell felly, efallai bod etholwyr Caerffili'n gwyro i gyfeiriad newydd.

Pynciau cysylltiedig