Ynni Cymru: Dyfodol ein cyflenwad ynni
- Cyhoeddwyd
Mae'r stafell yn dawel, pobl yn canolbwyntio. Dwi'n teimlo fel bo'n rhaid i fi sibrwd.
Dwi'n sefyll yng nghanolfan reoli'r National Grid, y rhwydwaith sy'n cludo trydan i'n cartrefi ni yn llachar i gyd ar sgrin enfawr o 'mlaen i.
Ry'n ni wedi derbyn caniatâd arbennig i gael ymweld â'r safle cyfrinachol hwn, rhywle yng nghefn gwlad Berkshire, fel rhan o gyfres o eitemau arbennig i BBC Cymru.
Y nod yw cymryd golwg fanwl ar sut bydd y trydan ry'n ni'n ei ddibynnu arno yn cael ei gynhyrchu yn y dyfodol, a rôl cymunedau ar hyd a lled y wlad wrth ddarparu "Ynni i Gymru".
'Cymru'n allforio'
"Y dyddiau 'ma, mae Cymru yn allforio lot fawr o'i phŵer i weddill y DU," meddai Duncan Burt, pennaeth y stafell reoli wrtha i.
Ar y sgrin o'n blaenau ni, mae'r Grid yn edrych yn debyg i fap y tiwb yn Llundain - bob un o'r sgwariau bychain yn bwerdy ynni yn rhywle.
Er mai un gongl fach ar ochr dde'r map sy'n cynrychioli pwerdai Cymru, mae Mr Burt yn pwysleisio ei fod yn gyfran allweddol o'r Grid.
Mae Pwerdy Penfro'n dal fy llygad, y safle ynni nwy fwya' o'i fath yn Ewrop, a ry'n ni hefyd yn sylwi ar y sgwâr sy'n cynrychioli Aberddawan, y pwerdy glo hirymaros ym Mro Morgannwg.
"Mae gogledd Cymru hefyd wedi bod yn lleoliad hollbwysig i ni fel rhyw fath o ganolbwynt ar gyfer trydan carbon isel," ychwanegodd Mr Burt.
'Hyblygrwydd'
Mae'r Deyrnas Unedig yn symud ei gyflenwad o drydan i ffwrdd o ddulliau sy'n golygu llosgi tanwyddau ffosil.
"Ro'dd gennym ni gynhyrchu niwclear yn Wylfa tan yn ddiweddar, mae gennym ni ffermydd gwynt yn y môr, a dau bwerdy hydro yn Ninorwig a Ffestiniog," meddai Mr Burt.
"Mae'r rhain yn cynnig lot o hyblygrwydd i ni ar gyfer rheoli'r cyflenwad o drydan ar adegau pan fod y galw yn arbennig o uchel - fel pan ma' pawb yn gwylio'r teledu ar gyfer gemau pêl-droed, Coronation Street neu Eastenders!"
Mae'r Grid wrthi'n ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno cysylltiad newydd ar hyd Ynys Môn, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer atomfa niwclear Wylfa Newydd.
Mae'r awgrym o fwy o beilonau wedi tanio dadlau tanllyd mewn sir sydd yn gwthio'i hun fel Ynys Ynni, â'i fryd ar gyflenwi hyd at 10% o anghenion trydan y DU yn y dyfodol.
Mae cynlluniau adnewyddadwy - fel fferm ynni solar fwyaf Prydain - dan ystyriaeth, a phrosiectau gwynt, llanw a biomas eisoes ar waith.
Ond y cynnig i adeiladu atomfa niwclear gwerth £10bn sydd wrth galon y weledigaeth.
Dyma fyddai'r prosiect isadeiledd ynni fwya' erioed yng Nghymru. Y nod yw dod a dau adweithydd dŵr berw i'r safle ger Bae Cemaes, er mwyn darparu trydan i bum miliwn o gartrefi am dros hanner canrif.
Mae'r datblygwyr, Pŵer Niwclear Horizon, hefyd wedi bod wrthi'n cynnal ymgynghoriad lleol ynglŷn â'u cynlluniau, a hynny wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno cais cynllunio y flwyddyn nesa'.
Dywedodd Sacha Davies, pennaeth datblygiad strategol y cwmni wrth BBC Cymru fod y prosiect yn "dod yn ei flaen yn dda iawn".
"Mae gennym ni'r safle gorau un yn Ewrop yn fan hyn ar gyfer codi atomfa niwclear newydd," meddai.
"Mae'r gymuned ar Ynys Môn wedi bod ynghlwm a'r sector niwclear am oddeutu 50 o flynyddoedd."
Hinkley Point
Fe esboniodd mai rhai o'r prif negeseuon oedd wedi dod o'u hymgynghoriad oedd galwadau gan bobl leol a busnesau am fwy o fanylder ynglŷn â'r swyddi fyddai'n cael eu creu yn ogystal ag ymrwymiad y cwmni i warchod a datblygu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynta' o fflyd newydd o atomfeydd niwclear - Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf - yn gynharach eleni wedi rhoi lot o hyder i'r cwmni, meddai Ms Davies.
"Mae angen ein bod ni'n rhan bwysig o'r cymysgedd o gynhyrchwyr ynni sydd ar waith, fel ein bod ni'n medru gwneud yn siŵr bod Cymru'n a Phrydain yn gallu ateb y galw am drydan yn y dyfodol.
"Mae'n bwysig ar gyfer byd busnes, mae'n bwysig ar gyfer pobl, mae'n bwysig ar gyfer y wlad yma."
'Pryderon'
Nid pawb sy'n cytuno wrth gwrs - ac fel gyda'r peilonau, mae 'na rai sydd yn gwrthwynebu'r weledigaeth yma ar gyfer y sector ynni yng Nghymru yn chwyrn.
Dywedodd Robat Iris o'r grŵp ymgyrchu Pobl yn Erbyn Wylfa B fod gwleidyddion wedi gadael i economi'r ynys arafu oherwydd yr "addewid y byddai ynni niwclear yn dod rhyw ddydd i'w achub".
"Mae 'na bryderon go iawn yn dod i'r amlwg erbyn hyn - a phobl yn holi am y gwastraff fydd yn cael ei storio ar y safle am dros ganrif, am y ffaith na fydd y swyddi gan fwyaf i bobl leol - ac ynglŷn â faint o bobl fydd yn symud i'r ardal," meddai.
Mynnodd y byddai canolbwyntio ar ddod a phrosiectau ynni adnewyddadwy a chymunedol i Sir Fôn yn cynnig mwy o swyddi a buddion eraill.
Mae 'na ddadlau brwd felly ynglŷn â'r sefyllfa ddelfrydol, ond does dim dwywaith y bydd Cymru yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gynhyrchu a darparu trydan i weddill y DU.
Yn ogystal â'r cynlluniau niwclear, byddai datblygiad posib morluniau llanw a phrosiectau ynni adnewyddadwy mawr eraill yma yn arwain at fwy o waith addasu i'r Grid Cenedlaethol.
Digon i'w drafod felly wrth i ni barhau ystyried sut ddyfodol fydd hi i'r sawl sy'n cynhyrchu ynni i Gymru.