Arddangos murlun i groesawu ffoaduriaid o Syria

  • Cyhoeddwyd
murlun

Mae murlun i groesawu ffoaduriaid o Syria i Aberystwyth yn cael ei arddangos am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Elusen Oxfam Cymru, yr artist Valériane Leblond a disgyblion o Ysgol Gymraeg Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect.

Mae'n flwyddyn ers i'r ffoaduriaid cyntaf gyrraedd y dre' o Syria, a bellach mae 'na 23 wedi cael eu hailgartrefu yno.

Ar y murlun, mae 'na negeseuon o groeso i'r Syriaid gan aelodau o'r cyhoedd gafodd eu casglu gan yr elusen, ynghyd â chyfarchion personol gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Mae cyfanswm o bron i 300 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Kirsty Davies-Warner, pennaeth Oxfam Cymru, bod yr elusen yn "ymfalchïo yn y newyddion y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ailgartrefu ffoaduriaid o Syria erbyn y Nadolig".

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd Cymru yn parhau i fod yn barod i groesawu ag ailgartrefu ffoaduriaid wrth i'r ymladd yn Aleppo barhau."

Mae'r murlun yn cael ei arddangos ddydd Mawrth 13 Rhagfyr am 10:30.