Dyn o Lanelli yn cyfaddef hacio TalkTalk er mwyn blacmel

  • Cyhoeddwyd
Daniel Kelley
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Kelley yn gadael y llys ddydd Mawrth

Mae dyn o dde Cymru wedi cyfaddef hacio i mewn i system gyfrifiadurol cwmni TalkTalk er mwyn mynnu taliad blacmel.

Fe wnaeth Daniel Kelley, 19 o Lanelli yn Sir Gaerfyrddin, bledio'n euog i 11 cyhuddiad o hacio, blacmel a thwyll ariannol yn llys yr Old Bailey.

Mae wedi cyfaddef hacio system gyfrifiadurol TalkTalk i gael data cwsmeriaid, ac yna mynnu taliad o 465 Bitcoin, taliad digidol sydd werth tua £285,000 heddiw, gan y cwmni.

Roedd hefyd wedi hacio i mewn i systemau nifer o gwmnïau eraill.

Digwyddodd y troseddau yn erbyn TalkTalk ym mis Hydref llynedd.

Cafodd Kelley ei ryddhau ar fechnïaeth, a dywedodd y barnwr y dylai ddisgwyl dedfryd o garchar pan y bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Mawrth.