Diffyg gweithwyr iechyd Cymraeg yn 'broblem sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud fod angen cydnabod bellach fod 'na "broblem sylweddol" o ran diffyg gweithwyr o fewn y maes iechyd meddwl sy'n gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd Meri Huws wrth raglen Post Cyntaf, Radio Cymru fod 'na sialens fawr yn wynebu Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa, gan ychwanegu mai "eilradd yw gwasanaeth mewn ail iaith".
"Mae un person yn methu cael gwasanaeth yn yr iaith o'u dewis nhw pan y'ch chi'n sôn am iechyd meddwl yn fethiant. Mae niferoedd mawr yn broblem gymdeithasol sylweddol," meddai.
Daw'r sylw ar ôl i ffigyrau ddaeth i law Cymdeithas yr Iaith ddangos fod nifer y gweithwyr o fewn y maes iechyd meddwl sy'n gallu siarad Cymraeg yn is na'r cyfartaledd o bobl all siarad Cymraeg o fewn dalgylch y byrddau iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cynnydd yn nifer y staff sydd yn dweud eu bod yn gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Un sydd wedi bod yn derbyn triniaeth iechyd meddwl yw David Williams o Landeilo.
Er ei fod yn siarad Cymraeg gyda'i feddyg teulu, pan ddaeth hi i ymweld ag arbenigwyr iechyd meddwl wedi diagnosis o gyflwr deubegwn (bipolar), roedd yn rhaid troi at y Saesneg.
"Mewn i'r feddygfa, siarad 'da'r meddyg teulu, eitha' cyfforddus i fod yn deg," meddai.
"Dyw e ddim yn rhywbeth hawdd i siarad amdano. Cal diagnosis cynta wrth y meddyg teulu... ar ôl 'ny cal referral i'r tîm iechyd meddwl.
"Yn y feddygfa odd popeth yn reli dda, reli gyfforddus, ma' pawb yn siarad Cymraeg 'na - pob meddyg, pob nyrs yn siarad Cymraeg.
"Ond wedyn ar ôl cael referral i'r tîm iechyd meddwl ma pethau'n newid. S'neb yn siarad Cymraeg - wel dim o'm mhrofiad i - so ma popeth yn troi at Saesneg, a ma fe jest yn teimlo bach mwy ffurfiol."
Mae gan Jeff Smith iselder ac mae e hefyd wedi darganfod taw prin iawn yw'r gwasanaeth cyfrwng Cymraeg, a dyw hynny ddim yn helpu'r broses o ddelio â chyflwr iechyd meddwl.
"Ma fe'n neud hi'n anoddach i rywun siarad am eu profiadau. Ma fe hefyd yn creu rhwystrau pan ma rhywun yn sôn am sut ma nhw'n teimlo, achos pan ti wastad yn cyfieithu, wedyn weithiau ma seiciatryddion yn cael y syniad anghywir oherwydd bod ti wedi colli rhywbeth oherwydd y barrier iaith."
Newid trefn recriwtio
Mae'r ystadegau mae BBC Cymru wedi eu gweld yn dangos, ym mhob bwrdd iechyd, bod y niferoedd oedd yn siarad Cymraeg ym maes iechyd meddwl yn is na'r cyfartaledd o bobl allai siarad Cymraeg o fewn dalgylch y byrddau iechyd adeg cyfrifiad 2011.
Ar gyfartaledd ar draws holl fyrddau iechyd Cymru 'mae llai na 10% o weithwyr ym maes iechyd meddwl yn siarad Cymraeg.
Yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf mae angen i fyrddau iechyd Cymru gyflwyno newidiadau i'w trefn recriwtio er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl.
"Er yr holl waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y maes iechyd ac iechyd meddwl, dyw hyn ddim yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y byrddau iechyd.
"Dyw e ddim yn rhywbeth ni 'di gweld mewn hysbysebion swyddi, bod y Gymraeg yn orfodol. Felly mae'n amlwg nad yw e'n rhywbeth sydd wedi cael ei ystyried.
"Felly mae'n rhaid ei ystyried e, ystyried hynny pan yn recriwtio staff, a ma rhaid hefyd ystyried hynny o ran y staff sydd eisoes yn bodoli yn y meysydd hyn i ddatblygu eu sgiliau nhw, a'u hyder nhw yn y maes, a hefyd eu hymwybyddiaeth nhw o bwysigrwydd yr iaith i'r cleifion ma nhw'n eu trin."
'Mwy yn siarad Cymraeg'
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein strategaeth Mwy na Geiriau yw sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu mamiaith.
"Y syniad canolog yw bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn elfen graidd o'r gofal - yn hytrach na rhywbeth ychwanegol, dewisol.
"Rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gael i'r rhai sydd eu hangen.
"Mae hefyd yn galonogol gweld bod arolwg diweddar staff y GIG wedi dangos gwelliant o ran cyfathrebu yn Gymraeg ers 2013.
"Mae 48% o'r staff bellach yn dweud bod modd iddynt ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, sy'n gynnydd o 7%."