Dod o hyd i gadair goll Dewi Emrys yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Wedi hir chwilio mae'r gadair a enillodd y Prifardd Dewi Emrys yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948 wedi'i chanfod yng nghapel Jewin yn Llundain.
Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl fe gyflwynodd Twm Morys raglen ar S4C a oedd yn chwilio am gadeiriau coll Dewi Emrys.
Dim ond Dewi Emrys ac un bardd arall (Dyfed) sydd wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith - bellach mae'r rheolau wedi newid a does dim modd gwneud hynny.
Un syndod arall oedd bod y pedair cadair ar goll. Ond bellach mae dwy gadair wedi'u canfod a darganfuwyd mai tlws a gyflwynwyd i Dewi Emrys ym Mangor yn 1943 gan bod hi'n gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
"Ry'n ni wrth ein bodd," meddai Llinos Morris, ysgrifennydd capel Jewin, "bod un o'r cadeiriau wedi'u canfod yma.
"Iwan Teifion Davies, un o'n blaenoriaid eraill a sylwodd wedi iddo weld lluniau o seremoni cadeirio Dewi Emrys ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1948.
"Mae'r ddraig ar y gadair yn go unigryw. Fy hun doeddwn i ddim wedi meddwl cadair pwy oedd hi ac y mae hi wedi symud yn ddiweddar i roi lle i'r gadair a enillodd Iwan Teifion yng Ngŵyl Fawr Aberteifi y llynedd."
Nid oes sicrwydd sut y cyrhaeddodd y gadair capel Jewin.
Yn eironig, efallai, testun awdl Dewi Emrys yn Eisteddfod Pen-y-bont oedd 'Yr Alltud' ac fe gafodd y gadair ei rhoi i Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont gan Gymry Vancouver.
Y tri beirniad oedd T. H. Parry-Williams, Gwilym R. Jones a Simon B Jones.
W. D. Williams oedd yn ail ac roedd dau o brifeirdd y dyfodol hefyd yn y gystadleuaeth - Mathonwy Hughes ac E. Llwyd Williams.
Yn ystod blynyddoedd anodd ei fywyd bu Dewi Emrys yn begera a chredir iddo werthu nifer o ddeunyddiau gwerthfawr, ond yn ystod ei flynyddoedd olaf yr enillodd cadair Pen-y-bont.
Erbyn hynny roedd yn byw yn 'Y Bwthyn' yn Nhalgarreg gyda'i ferch Dwynwen.
Bu farw yn ysbyty Aberystwyth ym Medi 1952.
"Dwi'm yn hollol siwr pryd ddaeth y gadair i Jewin," ychwanegodd Llinos Morris. "Mae'n bosib mai yng nghapel Charing Cross oedd hi'n wreiddiol ac yn ddiweddarach wrth gwrs fe unodd capeli Charing Cross a Falmouth gyda Jewin.
"Ni'n falch iawn bod Iwan wedi sylwi ar y gadair - ac fe geith y gadair tipyn mwy o barch nawr!"