Troseddau rhyw: Apelio am wybodaeth am ddyn o Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
David Daniel HayesFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Heddlu'n credu fod Mr Hayes wedi teithio i'r cyfandir

Mae Heddlu'r Gogledd wedi ailgyhoeddi apêl wrth geisio dod o hyd i ddyn 37 oed y maen nhw'n chwilio amdano mewn cysylltiad â throseddau rhyw ar Ynys Môn.

Credir bod David Daniel Hayes wedi gadael yr ardal ar ôl ei ymddangosiad cyntaf yn y llys yn Nhachwedd 2015.

Mae pob llu heddlu ym Mhrydain wedi bod yn chwilio amdano, ond maen nhw nawr yn credu ei fod wedi teithio i'r cyfandir.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Andrew Williams o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn credu fod Mr Hayes wedi teithio i'r cyfandir ar ôl iddo ddianc o'r llys y llynnedd.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) a lluoedd heddlu yma ac ar y cyfandir i geisio dod o hyd iddo a'i arestio.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn â lleoliad Mr Hayes fe allwch gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy sgwrs fyw ar y we. Neu gallwch ffonio'r heddlu ar 101 neu gysylltu gyda Taclo'r Taclau ar 0800 555 111."