Cadarnhau Paul Clement fel prif hyfforddwr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi penodi Paul Clement yn swyddogol fel prif hyfforddwr newydd y clwb.
Mae Clement, oedd yn rheolwr cynorthwyol ar glwb Bayern Munich yn Yr Almaen, wedi cytuno ar gytundeb dwy flynedd a hanner i reoli'r Elyrch.
Yn gynharach ddydd Llun fe roddodd y clwb o'r Almaen ganiatâd i Paul Clement, 44 oed, i siarad ag Abertawe.
Cafodd Clement gyfweliad am y swydd ym mis Hydref cyn i Bob Bradley afael yn yr awenau yn dilyn ymadawiad y prif hyfforddwr Francesco Guidolin.
Paul Clement felly fydd trydydd rheolwr Abertawe y tymor hwn. Y disgwyl yw y bydd e'n bresennol yn y gêm rhwng Crystal Palace a'r Elyrch yn Selhurst Park nos Fawrth.
Tan fis Chwefror 2016 roedd Mr Clement yn rheoli tîm Derby County a chyn hynny bu'n rheolwr cynorthwyol ar dimau Chelsea a Real Madrid.
Mae'r Elyrch wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf gan gynnwys yr un ddydd Sadwrn adref yn erbyn Bournemouth.