Gweithwyr iechyd yn Abertawe Bro Morgannwg i fynd ar streic

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae undeb Unsain wedi cyhoeddi fod staff rhai adrannau yn ysbytai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi pleidleisio dros fynd ar streic.

Fe bleidleisiodd 96% o aelodau'r undeb yn yr adran sterileiddio a diheintio dros streicio, tra bo 100% o staff yr adran pelydr-x o blaid gweithredu.

Mae'r undeb yn dadlau na fydd theatrau, wardiau na chlinigau'n gallu bwrw 'mlaen â'u gwaith heb y gwasanaethau hyn.

Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan y bwrdd iechyd.

Y rheswm dros weithredu, medd yr undeb, yw bod staff yn yr adrannau hyn mewn rhannau eraill o Gymru ar gyflog Band 3, tra'u bod ar Fand 2 ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Bydd y streic yn cael effaith ar lawdriniaeth yn ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y dyddiad cynharaf y gall y streic gael ei chynnal yw 18 Ionawr.

'Dim rheswm'

Dywedodd Mark Turner ar ran Unsain: "Mae staff yn yr ysbytai mor flin oherwydd eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd.

"Dydyn nhw ddim yn gallu deall sut mae'r bwrdd iechyd yn llai gwerthfawrogol o'u gwaith nhw na phobl sy'n gwneud union yr un gwaith â nhw mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

"Does dim rheswm pam y dylen nhw gael eu talu ar raddfa is.

"Mae pobl yn colli cannoedd ar gannoedd o bunnau pob blwyddyn, yn rhai achosion maen nhw'n cael eu talu'n rhy ychydig o bron i £2,000 y flwyddyn."