Ar y Marc yn dathlu 25 mlynedd ar Radio Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Gary Pritchard a Dylan Llewelyn wedi bod yn banelwyr ar y rhaglen ers blynyddoedd.
Mae rhaglen boblogaidd bêl-droed Radio Cymru, Ar y Marc yn dathlu penblwydd arbennig y penwythnos hwn.
Ar fore Sadwrn, Ionawr 4, 1992 fe groesawodd y cyflwynydd, Dylan Jones, y gynulleidfa i raglen "ffansin" chwaraeon newydd sbon.
"Dwi'n cofio'r rhaglen gyntaf yn iawn, dim ond chwe rhaglen oedd Ar y Marc i fod ar y dechrau, ond 25 mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i fynd," meddai Dylan Jones.

Trefn rhaglen gyntaf Ar y Marc 1992 a threfn rhaglen 2017
Ar y dechrau roedd y rhaglen ymlaen am 07:50 tan 08:30 y bore, gyda bwletin newyddion ac ychydig o ganeuon i gyd fynd â adolygiad o'r papurau newydd.
Cyfranwyr y rhaglen gyntaf oedd y sylwebydd Bryn Tomos, a Dylan Llewelyn yn sidekick yn trafod materion chwaraeon yr wythnos.
'Enw bachog'
Geraint Ellis oedd cynhyrchydd cyntaf y rhaglen 'nôl yn 1992 a dywedodd: "Roeddan ni'n trio adlewyrchu pethau o safbwynt cefnogwyr, ac roedd hi'n gyfnod o fwrlwm mawr ym myd y ffansins pêl-droed ar y pryd."
Geraint hefyd oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r teitl Ar y Marc, felly dyma'n egluro ystyr yr enw: "Dwi'n cofio meddwl yn galed iawn am y teitl, y nod oedd i ddod o hyd i idiom fachog, yn ymwneud â chwaraeon, doedd ddim wedi ei defnyddio fel teitl rhaglen o'r blaen.
"Doeddwn i'm yn hollol siwr am Ar y Marc ar y dechrau, o'n i'n poeni am y cyhoeddwyr a Dylan Jones yn gorfod sôn am 'ar Ar y Marc'.
"Ond mae o'n ddigon llyfn, ac mi gydiodd! Fel efo enwau plant, mae'n anodd meddwl am unrhyw enw arall i'r rhaglen erbyn hyn."

Ar y Marc yn dathlu 10 mlynedd yn 2002
Erbyn diwedd y 90au, dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd presennol, Dylan Wyn, fe newidiodd Ar y Marc i fod yn rhaglen oedd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar bêl-droed.
Wrth i'r rhaglen esblygu daeth dawn Dylan Jones i chwarae ar eiriau yn ystod ei linc agoriadol yn arferiad sydd yn parhau hyd heddiw.
"Fe ddoth y busnes chwarae ar eiriau yn ystod cystadlaethau diniwed ble roedd rhaid i bobl feddwl am eiriau yn ymwneud a gwahanol bethau fel llysiau neu amaethyddiaeth i ffurfio enw tîm pêl-droed.
"Does na neb erioed wedi deud wrtha i am 'neud cyflwyniad yn chwarae ar eiriau a defnyddio geiriau mwys, mae o jest wedi digwydd yn naturiol," meddai Dylan.
'Rhaglen y cefnogwyr'
Wrth i'r rhaglen ddathlu degawd o fod ar yr awyr, daeth Dylan Llewelyn a Gary Pritchard yn banelwyr parhaol ar y rhaglen ac yn gwmni i Dylan Jones yn wythnosol.
Roedd Ar y Marc wedi gosod ei stamp fel rhaglen bêl-droed i gefnogwyr pêl-droed.
Erbyn heddiw mae criw y rhaglen yn fwy ac mae na amrywiaeth o arbenigwyr a chefnogwyr pêl-droed yn rhan o'r tîm.

Dylan, Nicky John a Glyn Griffiths yn paratoi fynd ar yr awyr
Mae yna amrywiaeth eang o banelwyr bellach gan gynnwys is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, cyn chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones, y gyflwynwraig Nicky John, cyn rheolwyr Meilir Owen a Glyn Griffiths, gan gynnwys ffans megis Ian Gill a'r canwr Ywain Gwynedd.
"Mae cael bod yng nghwmni'r criw yn gret, mae 'na awyrgylch stafell newid cyn i ni fynd ar yr awyr, dadlau, tynnu coes a rhoi'r byd ffwtbol yn ei le," meddai Dylan.
'Breuddwydio am lwyddiant Cymru'
Dros y 25 mlynedd diwethaf os oes yna achlysur arbennig yn ymwneud a thim pêl-droed o Gymru, mae Ar y Marc wedi bod yno.
Fe ddarlledwyd rhaglen arbennig yn Milan cyn gêm Cymru yn erbyn yr Eidal yn 2003, rhaglen fyw o stadiwm Ffordd Ffarrar, Bangor cyn y gêm olaf un yno yn Rhagfyr 2011 ac roedd y Dylan a'r criw yn stadiwm y Cae Ras yn Wrecsam ar fore dathliadau'r clwb yn 150 oed.

Dylan Jones a chriw Ar y Marc yn darlledu yn stadiwm Ffordd Ffarrar, Bangor cyn y gêm olaf un yno yn 2011.
Ar ôl i Gymru gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc, roedd y rhaglen yng nghanol bwrlwm y cefnogwyr.
Wrth i griw y rhaglen recordio corws y gân 'Hogia Ni' gyda Gwerinos cyn y gystadleuaeth, roedd 'na gryn edrych ymlaen at ddarlledu o Ffrainc.
Dywedodd Dylan bod cael gwneud y rhaglen yn fyw o'r Euros yn un o'r uchafbwyntiau yn hanes y rhaglen: "Am 25 mlynedd ryda ni wedi bod yn breuddwydio cael Cymru mewn prif gystadleuaeth.
"Roedd cael bod yn Ffrainc yng nghanol yr holl gefnogwyr a gweld a chael cyfleu'r emosiwn yn ystod y rhaglenni yn anhygoel. Roedd darlledu o Bordeaux yn foment neith aros gyda mi am byth."

Ar y Marc yn Ffrainc yn ystod Euro 2016
Yn wythnosol mae Ar y Marc yn rhoi llwyfan i gefnogwyr pêl-droed leisio eu barn am berfformiadau eu tîm.
Mae Elwyn Roberts o'r Wyddgrug yn wrandawr cyson o'r rhaglen: "Mae hi'n braf cael rhaglen sydd yn trafod pêl-droed yn unig, nid ond y timoedd mawr ond y timau bach hefyd. Mae'r rhaglen yn dda am dynnu sylw fod pêl-droed yn cael ei chwarae drwy Gymru gyfan ar bob lefel.
"Dwi wrth fy modd efo'r tynnu coes ymysg y criw hefyd. Pan dwi'n siarad fel cefnogwr Wrecsam ar y rhaglen dwi'n teimlo fel rhan o'r criw sydd yn deimlad braf."
'Dim diddordeb mewn pêl-droed'
Nid yn unig mae'r rhaglen yn boblogaidd ymysg cefnogwyr pêl-droed, ond mae pobl sydd a dim diddordeb yn y gamp yn mwynhau gwrando ar y rhaglen.
Dywedodd Dylan: "Dwi'n cael pobl yn dweud: 'Dwi'n gwrando arnoch chi bob bore Sadwrn ond sgen i ddim diddordeb mewn pêl-droed.'
"Cael y balans yn iawn ydi'r gamp. Rydym yn trio peidio bod yn rhy arbenigol rhag ofn i ni golli'r gwrandawyr cyffredin."

Panelydd y rhaglen, Osian Roberts yn derbyn cerdd wedi ei chyfansoddi yn dilyn llwyddiant Cymru yn yr Euros
Mae'r rhaglen wedi bod yn y slot 08:30 ar fore Sadwrn ers blynyddoedd bellach ac yn rhan anatod o benwythnos gwrandawyr Radio Cymru.
Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys: "Does dim angen bod â chlem ynglŷn â phêl-droed i fod yn ffan pennaf o Ar y Marc. Mis ar ôl mis, blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Dylan a'r tim wedi creu perl o raglen, un sy'n dal i sgleinio hefyd.
"Maen nhw wedi torri straeon, magu lleisiau newydd, wedi 'bod yno' droeon, a gobeithio bydd y criw, a'u gwrandawyr teyrngar, yn dathlu mewn steil. Gorau darlledu, cyd-ddarlledu ... neu rywbeth felly!"
Wrth edrych ymlaen mae Dylan a'r criw yn fodlon gyda'r hen ystrydeb pêl-droed: "Rydym yn cymryd pob rhaglen fel maen nhw'n dod a gawni weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol."

Dylan Jones a’r panelwyr Gary Pritchard, Nicky John ac Ian Gill cyn y rhaglen yn nodi pen-blwydd 25.