Ymweliadau i'r meddyg am annwyd neu beswch 'yn ddiangen'

  • Cyhoeddwyd
BachgenFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dywed meddygon mai gorffwys a chadw'n gynnes yw'r peth gorau i'w wneud gydag annwyd neu beswch

Mae meddygon sy'n rhan o gynllun peilot i leihau pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn rhybuddio cleifion sydd ag annwyd neu beswch i gadw draw o feddygfeydd.

Maen nhw'n dweud bod achosion peswch yn benodol wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cysylltu gyda'u meddygfeydd - a hynny mewn gwirionedd pan nad oes angen.

Dywedodd Dr Steve Bassett, sy'n arwain cynllun peilot newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, bod angen i bobl sydd â'r symptomau yma adael i'r afiechydon "redeg eu cwrs naturiol".

Dim ond y rhai hynny sydd â symptomau mwy difrifol, fel twymyn, ddylai gysylltu â'r meddyg teulu, meddai.

Dywed Dr Bassett na ddylai pobl sydd â pheswch - hyd yn oed os oes fflem gwyrdd - gysylltu os ydyn nhw'n bwyta ac yn yfed yn ôl yr arfer.

"Dim ond pryd mae symptomau eraill, fel twymyn yn ogystal â pheswch, neu broblemau anadlu neu eich bod yn chwydu mae angen i ni eich gweld," meddai.

'Siwrne ddibwys'

Mae'r cynllun peilot newydd, cynllun 111, yn ymwneud ag achosion sydd ddim yn rhai brys.

Dywed Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod tabledi gwrthfiotig hefyd yn gallu bod yn effeithiol ar gyfer man anhwylderau.

Felly mae siwrne i'r feddygfa yn cael ei ddisgrifio fel un "dibwys, ac yn golygu o bosib eich bod yn cymryd lle rhywun sy'n wirioneddol sâl".

Disgrifiad o’r llun,

Dr Steve Bassett sy'n arwain y cynllun peilot newydd yn ardal Abertawe Bro Morgannwg

Dywedodd Heather Potter, sy'n feddyg teulu yn Sgiwen, bod meddygfeydd yr ardal yn hynod o brysur oherwydd pwysau gan gleifion sy'n dioddef o anwydau neu beswch.

"Mae pobl sydd wir angen gweld meddyg teulu yn mynd yn rhwystredig oherwydd eu bod yn ei chael yn anodd gweld meddyg," meddai.

"Mewn rhai achosion mae pobl yn troi at unedau brys yr ysbytai."

Dywed Dr Potter y dylai pobl sy'n dioddef o anwyd neu beswch droi yn gyntaf at eu fferyllydd lleol.

Ychwanegodd bod yr un peth yn wir am blant dan bump oedd sydd â pheswch neu annwyd, cyn belled â'u bod yn ymddwyn yn ôl yr arfer ac yn bwyta yn iawn.