Pryderon uno Prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
Egin
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan yr Egin, rhan o gynlluniau uchelgeisiol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae pryderon am uno Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael eu codi, wrth i'r paratoadau olaf gael eu gwneud ar gyfer cwblhau'r uniad.

Mae papur gan yr Athro Tegid Wyn Jones gyda chefnogaeth y gwyddonydd Dr Lyn Evans, arweinydd prosiect yr Hadron Collider, yn dweud y dylai ymchwiliad llawn fod wedi cael ei gynnal cyn gwneud y penderfyniad i uno yn 2011.

Roedd hynny'n dilyn sgandal ynglŷn â chysylltiadau Prifysgol Cymru â sefydliadau tramor.

Mae disgwyl i'r broses ffurfiol o uno'r sefydliadau gael ei gwblhau o fewn y deunaw mis nesa.

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, wedi gwrthod yr alwad am ymchwiliad.

Fe gyhoeddwyd yn Hydref 2011 y byddai Prifysgol Cymru i bob pwrpas yn cael ei diddymu wrth ei huno gyda Phrifysgolion y Drindod Dewi Sant ac Abertawe Fetropolitan.

Ond yn ôl yr Athro Wyn Jones doedd na ddim adolygiad llawn o'r sefyllfa, wedi i broblemau Prifysgol Cymru ddod i'r amlwg.

Dywedodd: "Ar ôl y gyflafan yna fe ddylid fod wedi cael archwiliad i beth oedd wedi digwydd ac i benderfynu ble oedd y bai ac hefyd i benderfynu ar y ffordd ymlaen i Brifysgol Cymru, ond ddaru hwn ddim digwydd", meddai.

"Mae beth ddigwyddodd yn fy marn i yn dangos diffyg dilysrwydd enbyd".

Mae'n dweud bod digwyddiadau 2011 wedi bod yn drychinebus i Brifysgol Cymru ond bod na "emau yng nghoron y brifysgol".

"Fe ddylsai archwiliad fod wedi digwydd", meddai, "a dwi'n dal i feddwl y dylid cael archwiliad rŵan i beth sydd wedi digwydd cyn i'r uno 'ma ddigwydd, os yw e'n mynd i ddigwydd o gwbwl".

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes ar raglen Newyddion 9: "Dwi ddim yn credu bod angen ymchwiliad. Os ydych yn cofio, fe ddechreuwyd y broses yma pum mlynedd yn ôl ac fel ymateb i Lywodraeth Cymru ar bolisi addysg uwch.

"Beth ddigwyddodd fe wnaeth y prifysgolion ystyried yr un oedd angen bellach ar Gymru. Ac o safbwynt uno Prifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant fe ddilynwyd proses."

Mae'r academyddion hefyd yn codi pryderon am sefyllfa ariannol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan gyfeirio at gais Prifysgol Cymru y Drinod Dewi Sant am fwy o gyllid tuag y prosiect "Yr Egin" fydd yn darparu pencadlys newydd i S4C yng Nghaerfyrddin.

Fe ofynnwyd a oedd y datblygiad hwnnw yn ddibynnol gael yr arian cyhoeddus ychwanegol.

Dywedodd yr Athro Hughes: "Mae'r brifysgol ar ganol trafodaeth gyda'r llywodraeth ac mae hwnnw'n rhoi cyfle i ni nawr i ymateb mewn ffordd hynod o gadarnhaol ar gyfer datblygu'r economi ac mae dybryd angen hynny yn y gorllewin."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru bod "y broses sy'n arwain at yr uno gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad, a disgwylir bydd yr integreiddio wedi ei gwblhau yn ystod y flwyddyn academaidd 2017/18".