£80m i sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn gynt

  • Cyhoeddwyd
MeddyginiaethFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi cyhoeddi cynllun £80m sy'n "torri tir newydd", fydd yn sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael yn gynt yng Nghymru.

Bydd byrddau iechyd yn cael £16m ychwanegol y flwyddyn i sicrhau bod cyffuriau newydd ar gael o fewn deufis o gael eu cymeradwyo fel meddyginiaethau cost effeithiol.

Daw'r cynllun wedi pryderon bod byrddau iechyd yn rhy araf ac anghyson yn dod o hyd i arian ar gyfer triniaethau newydd.

Yn ôl Vaughan Gething mae'r system yn well system nag sy'n bodoli yn Lloegr a'r Alban ac fe fydd yn "fwy cyson".

Trin canser, epilepsi a HIV

Mae Lloegr a'r Alban eisoes wedi sefydlu cronfeydd er mwyn cael gwell mynediad i feddyginiaethau newydd, ond ar gyfer cyflyrau penodol yn unig.

Yn Lloegr, mae cronfa ar gyfer cyffuriau canser newydd, tra bod yr Alban yn neilltuo arian ar gyfer meddyginiaethau i drin cyflyrau prin neu derfynol.

Bydd yr arian yng Nghymru ar gael i unrhyw glefyd, cyn belled bod y driniaeth wedi cael sêl bendith arbenigwyr.

Beth mae'r cynllun yn ei olygu i Gymru?

  • Arian ar gyfer cyffuriau i drin unrhyw gyflwr cyn belled bod arbenigwyr wedi eu cymeradwyo fel rhai cost effeithiol;

  • Meddyginiaethau ar gael hyd at wyth wythnos yn gynt;

  • Yr amser mwyaf y mae'n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod y driniaeth ar gael yn gostwng;

  • Disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno meddyginiaethau yn syth unwaith bod penderfyniad.

Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn datblygu gydol yr amser - ond mae rhai yn ddrud iawn a dim ond rhai cleifion sy'n elwa.

Mae dau sefydliad yn penderfynu os yw'r budd o gyffur neu driniaeth yn werth y gost - The National Institute of Clinical Excellence (NICE) sy'n gwneud argymhellion yng Nghymru a Lloegr, a'r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan sy'n darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun newydd yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau iechyd sicrhau y bydd meddyginiaethau ar gael o fewn dau fis i argymhellion terfynol y naill gorff neu'r llall.

Ers mis Ebrill diwethaf mae 55 meddyginiaeth newydd wedi'u hargymell gan y ddwy asiantaeth i drin afiechydon fel llid y cymalau, canser, epilepsi, clefyd y galon a HIV.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething wrth Owain Clarke y bydd cleifion yn cael meddyginiaethau arloesol yn gynt

Dywedodd Mr Gething: "Fe fydd y cynllun newydd yn sicrhau bod cleifion o Gymru sy'n dioddef o gyflyrau difrifol yn cael meddyginiaethau newydd arloesol yn gynt.

"Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu canfod, eu datblygu a'u harbrofi bron bob wythnos i gynnig gobaith o iachâd neu gwell safon o fyw i bobl sy'n dioddef o salwch difrifol."

Ychwanegodd y bydd yn cael gwared â'r ansicrwydd a'r oedi i ariannu triniaethau newydd ac yn gwneud "gwahaniaeth mawr" gan sicrhau y bydd GIG Cymru yn y lle gorau posib "i ddarparu y cyffuriau diweddaraf".

Roedd y cynllun yn rhan allweddol o faniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad y llynedd.

Disgrifiad,

Glyn Jones sydd gyda sglerosis ymledol yn esbonio sut allai elwa o gyffur o'r enw sativex yn y dyfodol

Cynllun 'blaengar'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Angela Burns AC bod y cynllun yn "gam positif ymlaen" ond fe wnaeth alw am adolygu'r gronfa yn gyson "i sicrhau bod digon o adnoddau i gyrraedd y galw".

Mae'r diwydiant fferyllol hefyd wedi croesawu'r cynllun fel "un blaengar" fydd yn sicrhau mynediad hwylusach i feddyginiaeth.

Yn ôl Rick Greville, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yng Nghymru: "Mae'r byrddau iechyd yng Nghymru wedi gorfod wynebu sawl her wrth gynllunio.

"Rwy'n credu y bydd heddiw yn cael gwared o sawl llyffethair ariannol y mae byrddau iechyd wedi eu hwynebu yn y gorffennol."

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r cynllun olygu bod mwy o gyffuriau i drin salwch fel canser ar gael i gleifion

Ni fydd y gronfa newydd yn talu am driniaethau sydd heb eu cymeradwyo fel rhai cost effeithiol.

Gall geisiadau am y triniaethau hynny gael eu gwneud drwy broses ar wahân sy'n cael ei hadnabod fel Cais Annibynnol ar gyfer Ariannu Claf - pan mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniad fesul achos.

Ym mis Medi fe gadarnhaodd Mr Gething y byddai'r broses ar gyfer cleifion annibynnol yn cael ei hadolygu.

Dywedodd bod angen edrych ar gysondeb penderfyniadau'r Gwasanaeth Iechyd a chymhwyster cleifion ar gyfer derbyn amrywiol feddyginiaethau ar draws Cymru.

Roedd 'na ofnau bod rhai ardaloedd yn elwa mwy na'i gilydd.

Mae disgwyl canlyniad yr adolygiad hwnnw yn fuan.