Glanaethwy i berfformio darn coffa Aberfan yn America
- Cyhoeddwyd
Mae 70 aelod o gôr Glanaethwy ar fin hedfan allan i America ar gyfer perfformio darn coffa trychineb Aberfan, Cantata Memoria.
Bydd y côr yn perfformio gwaith y cerddor Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood ar lwyfan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd mewn cyngerdd arbennig fel rhan o gôr rhyngwladol 300 llais.
Yn dilyn llwyddiant y côr ar raglenni teledu fel Last Choir Standing a Britain's Got Talent, mae'r cyngerdd yma yn un o uchafbwyntiau'r côr yn ôl y cyd-gyfarwyddwr, Cefin Roberts.
Dywedodd: "Mae hwn yn un o'r uchafbwyntiau. Mae cael perfformio mewn neuadd mor enwog yn brofiad mawr.
"Mae cael perfformio'r stori yma mewn premier Americanaidd yn fraint."
Fe gafodd Cantanta Memoria ei berfformio gyntaf nôl ym mis Hydref yng nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd i goffau trychineb Aberfan, pan laddwyd 116 o blant a 28 oedolyn ym mis Hydref 1966.
'Aros yn y cof fel craith'
Mae Cefin Roberts yn cofio'r trychineb yn iawn: "Dwi'n cofio fy anti Luned yn dod i ddweud wrtha i fod 'na rywbeth wedi digwydd yn y de.
"Ma' hwna wedi aros yn fy nghof fel craith ers hynny."
Doedd y rhan helaeth o aelodau'r côr heb eu geni pan ddigwyddodd trychineb Aberfan, ond mae'r aelodau ieuengaf yn edrych ymlaen at gael perfformio'r darn o flaen cynulleidfa o America.
Dywedodd un o'r aelodau, Celyn Cartwright: "Mae 'na gyffro ac ychydig o nerfau. Mae'n mynd i fod yn brofiad anhygoel cael cydweithio efo'r holl gorau eraill a chael canu gyda cherddorfa.
"Mae'r darn wedi ei gyfansoddi am rywbeth sydd wedi digwydd yng Nghymru, felly mae'n golygu cymaint i ni fel côr o Gymru i gael ei berfformio a gobeithio gwneud job dda ohoni."
Bydd côr Glanaethwy yn perfformio Cantata Memoria yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd Nos Sul, 15 Ionawr.