Teyrngedau i sylfaenydd Ty Hafan, Suzanne Goodall

  • Cyhoeddwyd
suzanne goodallFfynhonnell y llun, Ty Hafan

Mae Tŷ Hafan wedi talu teyrnged i'w sylfaenydd, Suzanne Goodall wedi iddi farw yn 95 oed.

Cafodd yr hosbis plant cyntaf yng Nghymru ei hagor ganddi yn 1999 er mwyn rhoi gofal lliniarol i blant a'u teuluoedd.

Bum mlynedd yn ddiweddarach fe gafodd Suzanne Goodall, oedd yn dod o Beddau ger Pontypridd, MBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Fe wnaeth hi ymddeol o'i gwaith gyda'r elusen yn 2011, ond parhaodd i gadw cysylltiad â'r mudiad.

Mewn datganiad dywedodd Tŷ Hafan ei bod hi wedi bod yn "ysbrydoliaeth go iawn i staff a theuluoedd".

"Mae ei hymroddiad a'i hymrwymiad i sefydlu'r hosbis i blant 18 mlynedd yn ôl wedi darparu goleuni yn y tywyllwch i gannoedd o deuluoedd ar draws Cymru wrth iddyn nhw wynebu realiti gofalu am blentyn sydd â chyflwr yn cyfyngu ar eu bywyd.

"Doedd ei awch i ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth orau i'r teuluoedd yma byth yn pylu, ac mae hi wedi parhau i ennyn parch a chariad pobl o fewn yr elusen.

"Rydym ni i gyd yn drist iawn i glywed y newyddion heddiw ac fe fyddwn ni'n gweld colled ar ôl cynhesrwydd a dycnwch Suzanne. Bydd pawb yn yr elusen yn parhau â'i gwaith drwy wneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r teuluoedd sydd ein hangen."