Newid hinsawdd: £3m i asesu ardaloedd arfordirol Cymru

  • Cyhoeddwyd
arfordir
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arfordir Pen Llŷn yn un o'r ardaloedd fydd yn cael ei asesu

Bydd safleoedd twristiaeth ar hyd arfordir Cymru yn cael eu hasesu am effaith newid hinsawdd, erydu a lefelau'r môr fel rhan o brosiect newydd gwerth £3.4m.

Bydd yr arian yn mynd at safleoedd cloddio, mapio'r môr a chreu modelau o dirwedd yr ynysoedd oddi ar Sir Benfro a Phen Llŷn yng Ngwynedd.

Bwriad y gwaith ymchwil yw diogelu'r safleoedd rhag risg newid hinsawdd a lleihau unrhyw effaith posib ar economi yr ardaloedd dan sylw.

Bydd safleoedd ar arfordir Iwerddon hefyd yn elwa.

Mae'n gynllun pum mlynedd wedi ei ariannu gan arian o'r Undeb Ewropeaidd, gan geisio cefnogi cynlluniau ar gyfer rheoli newid hinsawdd yn y dyfodol, ac edrych ar newidiadau hir dymor i arfordiroedd Cymru ac Iwerddon.

Bydd yna gyfle hefyd i hyfforddi ac annog datblygu cyfleon ar gyfer twristiaid.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy'n arwain y prosiect, yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, a Chanolfan Archeoleg ac Arloesedd Iwerddon, a'r Arolwg Daearegol yn Iwerddon.