Defaid yn ôl ar Ben y Gogarth am y tro cyntaf ers 2001
- Cyhoeddwyd
Bydd ymwelwyr arbennig yn dychwelyd i Ben y Gogarth am y tro cyntaf ers blynyddoedd, a hynny yn y gobaith y bydd eu presenoldeb yn helpu i warchod bywyd gwyllt ar y penrhyn uwchben Llandudno.
Mae tenant newydd fferm Parc, Dan Jones, sy'n ffermio'r Gogarth ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn bwriadu rhyddhau defaid ar ben y mynydd.
Y rhain fyddai'r defaid cyntaf yno ers i glwy traed a'r genau daro Cymru yn 2001.
Gobaith Mr Jones ydy y bydd y 290 o ddefaid Llŷn a 70 o ddefaid Herdwick o Ardal y Llynnoedd yn bwyta'r gwair, gan olygu y bydd mathau prin o blanhigion yn ffynnu yno.
Dywedodd Mr Jones: "Roedd rhai'n arfer dweud fod modd i chi gerdded ar hyd y bryn yma yn y bore heb wlychu'ch traed mewn gwlith, a hynny am fod y gwair wedi ei fwyta mor gwta - ond nid fel yna mae hi erbyn hyn.
"Y gobaith ydy y bydd dod â'r defaid yn ôl hefyd yn golygu y bydd hen gymeriad y tir yn dychwelyd."
Mae'r penrhyn carreg calch yn gartref i fathau prin o blanhigion sydd yn tyfu yno'n unig, ac mae sicrhau eu parhad yn golygu troi at ffurf mwy traddodiadol o ffermio.
Fe fydd y defaid yn cael rhyddid i bori yn ystod y dydd i ddechrau, cyn cael eu hebrwng dan do dros nos. Yn y pen draw fe fydd y ddiadell yn rhydd i bori ddydd a nos ar dir y fferm ar y penrhyn.
Dywedodd rheolwr eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, William Greenwood: "Os cawn ni hyn yn iawn, fe ddylien ni weld rhywogaethau prin o löynnod byw a chreigafalau'n ffynnu.
"Mantais ychwanegol fydd i archeoleg y Gogarth, sydd yn cynnwys cloddfeydd o'r Oes Efydd, patrymau caeau canoloesol a thystiolaeth o ddau ryfel byd - fe fydd y rhain yn dod yn fwy amlwg a ni fyddan nhw'n cael eu tagu o dan dyfiant."
Fe symudodd Mr Jones gyda'i wraig Ceri a'u mab Efan o Ynys Môn i fyw ar y Gogarth er mwyn ffermio'r tir.
Mae cynllun ar droed i geisio datblygu'r llwybrau troed ar dir y fferm ar y Gogarth, allai fod o gymorth wrth geisio lleihau effaith cerddwyr ar ddarnau mwy sensitif o'r penrhyn, a galluogi pobl i gerdded llwybrau newydd sydd wedi bod ar gau ers degawdau.