Digwyddiadau i gofio hanes rheilffordd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Maenclochog
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf Maenclochog yn 1912, cyn i ran o'r linell orfod cael ei chau oherwydd y Rhyfel Mawr

Yn ystod y penwythnos mae digwyddiadau yn cael eu cynnal i gofio hanes rheilffordd yn Sir Benfro fu'n rhaid ei chau 100 mlynedd yn ôl.

Cafodd rheilffordd gogledd Sir Benfro, oedd yn rhedeg rhwng Clunderwen a Treletert, ei hagor gyntaf yn 1895.

Roedd yn cael ei defnyddio i gario llechi o'r chwarel gyfagos a ffermwyr yn defnyddio'r trên i anfon cynnyrch i'w gwerthu yn y marchnadoedd.

Roedd ymwelwyr hefyd yn ei defnyddio am gyfnod pan oedd pentref gwyliau yn Rhosybwlch.

Defnyddio'r cledrau

Ond ym mis Ionawr 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd y trigolion lleol wybod y byddai'r rheilffordd yn cau am fod angen defnyddio'r cledrau ar gyfer yr ymdrech rhyfel.

Roedd rhwydwaith rheilffordd am gael ei chreu yn Ffrainc fel bod modd i'r milwyr a nwyddau gyrraedd maes y gad, ac roedd angen y cledrau ar gyfer y ffordd.

Doedd y newyddion ddim yn plesio ac fe drefnwyd deisebau yn gwrthwynebu. Eu dadl oedd y byddai cau'r rheilffordd yn golygu digolledion i'r ffermwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Poster yn hysbysu y byddai darn o'r rheilffordd yn cau

Er na chafodd y mwyafrif fawr o effaith, llwyddodd deiseb Ficer Maenclochog, Stephan Howell i berswadio Rheolwr Cyffredinol y Great Western Railway i gadw darn o'r rheilffordd rhwng Clunderwen a Maenclochog ar agor.

Ar ddiwedd y rhyfel, cafodd gweddill y rheilffordd ei hail osod ac fe agorwyd y llwybr cyflawn erbyn 1923.

'Pwysig cofio'

Nos Wener fe ddangoswyd ffilm o 1995 o hanes y rheilffordd oedd yn cynnwys plant o Ysgol Casmael yn neuadd yr ysgol. Ddydd Sadwrn siaradodd Emyr Phillips, sydd yn ymddiddori yn yr hanes a chafodd taith gerdded ei chynnal.

Ddydd Sul mae gwasanaeth yn Eglwys St Pedr, Casnewydd Bach a'r gwasanaeth hwnnw yn debyg i un fyddai yn cael ei gynnal 100 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Alun Ifans, sydd wedi trefnu'r penwythnos: "Dw i'n credu bod eisiau dechrau cofio.

"Mae'n bwysig i ni ddechrau cofio hanes wrth ein traed ac mae hyn yn gyfle i atgoffa pobl a disgyblion beth wnaeth cledrau rheilffordd Maenclochog i'r Rhyfel Byd Cyntaf."