Plannu coed Nadolig i warchod twyni tywod

  • Cyhoeddwyd
The volunteers planting the discarded Christmas trees at Barkby Beach, Prestatyn

Mae tua 300 o hen goed Nadolig yn cael eu claddu ar lan y môr yn Sir Ddinbych er mwyn gwarchod twyni tywod rhag erydu.

Mae criw o weithwyr cyngor a gwirfoddolwyr wedi dechrau claddu'r coed dros ardal o tua 100m sgwar ar draeth Barkby, Prestatyn.

Mae yna brinder gwair i ddal y twyni at ei gilydd yn yr ardal, ond y gobaith yw y bydd y tywod yn gorchuddio'r coed a chryfhau'r tir er mwyn trawsblannu gwair yno.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod y traeth yn "ardal bwysig i dwristiaeth".

Dywedodd swyddog cefn gwlad Sir Ddinbych, Garry Davies, wrth raglen Country Focus ar BBC Radio Wales eu bod yn gobeithio plannu corswellt y tywod (marram grass) yno erbyn diwedd yr haf nesaf.

"Mae'r traeth wedi cael ei ddifrodi gan ormod o gerdded arno, ac unwaith mae'r corswellt yn diflannu mae gennych chi broblem gydag erydu gwynt a'r tonnau," meddai.

"Os na fyddwn yn datrys y broblem nawr, fydd o ddim yn gweithio fel amddiffyniad naturiol o'r môr."

Ffynhonnell y llun, Jeff Buck/Geograph

Mae'r twyni ar draeth Barkby yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Eithriadol, ac mae hefyd yn Ardal Warchodaeth Arbennig oherwydd y bioamrywiaeth pwysig sydd yno.

Mae'r twyni yn gartref i'r môr-wenoliaid bach olaf yng Nghymru, ac yn bwysig hefyd i fadfall y twyni, y llyffant cefnfelyn a rhai mathau prin o degeirianau.

Ychwanegodd Mr Davies bod y cyngor yn gobeithio gosod system o lwybrau pren a thaflenni addysgu fel y gall pobl fwynhau'r twyni heb eu difrodi.

Mae coed Nadolig hefyd yn cael eu defnyddio i'r un pwrpas ar draeth Talacre yn Sir y Fflint, ac fe gafodd y coed yna'u casglu gan hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy.