Cysegru esgob benywaidd cyntaf Cymru, Joanna Penberthy

  • Cyhoeddwyd
Esgob
Disgrifiad o’r llun,

Cymeradwyaeth wrth i'r Esgob Joanna Penberthy gael ei chysegru yng Nghadeirlan Llandaf

Mae'r esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru wedi cael ei chysegru mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd yr Esgob Joanna Penberthy ei chysegru yn Esgob Tyddewi yng Nghadeirlan Llandaf am 11:00.

Cafodd ei hethol gan aelodau ym mis Tachwedd.

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at "ymuno â phobl Tyddewi", tra bod Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi disgrifio'r achos fel un "hanesyddol".

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Daw'r penodiad yn dilyn ymddeoliad Wyn Evans, fu wrth y llyw am wyth mlynedd.

Cafodd y penderfyniad i ganiatáu menywod i fod yn esgobion ei wneud yn 2013.

Dywedodd y Canon Penberthy, sy'n 56 oed ac sydd wedi bod yn ficer yn Sir Gâr ac yn Ganon Tyddewi, ei bod "yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ymuno â phobl esgobaeth Tyddewi wrth i ni fyw a rhannu ein ffydd yng Nghrist".

Dywedodd y Dr Morgan: "Mae hwn yn achos hanesyddol i'r Eglwys yng Nghymru yn ogystal ag achos hynod arwyddocaol i'r Canon Joanna."

Wrth drafod y penderfyniad i ddewis dynes i'r rôl, dywedodd: "Yr hyn sy'n bwysig yw addasrwydd, cymeriad a doniau, nid rhyw, a dyna pam y cafodd Joanna ei hethol yn esgob."

Canon Joanna Penberthy

  • Cafodd ei geni yn Abertawe a'i magu yng Nghaerdydd

  • Cafodd ei haddysg yng Nghaerdydd, Coleg Newnham, Caergrawnt ac yna Durham

  • Cafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1987, ac yn un o'r menywod cyntaf i fod yn offeiriad yn 1997

  • Mae hi wedi gwasanaethu yn Durham, Llandaf, Llanelwy, Tyddewi, Caerfaddon, Abertawe ac Aberhonddu

  • Yn briod i'r Parchedig Adrian Penberthy, mae ganddi bedwar o blant

  • Mae hi'n siarad Cymraeg.