Dechrau adeiladu gorsaf newydd £21.5m Heddlu'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf heddlu WrecsamFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad artist o'r adeilad newydd

Mae'r gwaith yn dechrau ddydd Llun ar adeiladu gorsaf heddlu newydd gwerth £21.5m yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'r orsaf "eco-gyfeillgar" yn cael ei hadeiladu ar dir hen warws yn Llai ger Wrecsam, a bydd yn cynnwys nifer o nodweddion i arbed ynni a chostau.

Bydd 32 o gelloedd yn yr adeilad a bydd 200 o blismyn a staff yn gweithio yno.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 32 o gelloedd yn yr adeilad newydd