Cau naw o ganghennau HSBC yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
hsbc

Mae banc yr HSBC wedi cadarnhau y bydd naw o ganghennau yn cau yng Nghymru cyn ddiwedd y flwyddyn.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau'r cwmni i gau 62 o ganghennau ar draws y DU.

Fe fydd pum cangen yn cau yn ne Cymru, sef ym Maesteg, Rhydaman, Abergwaun, Arberth a changen Ffordd Churchill yng Nghaerdydd.

Yn y gogledd bydd canghennau Caergybi, Treffynnon, Llanrwst a Threfyclo ym Mhowys hefyd yn cau.

Mae HSBC yn dweud bod 180 o swyddi mewn perygl o fynd ar draws 62 o ganghennau yn y DU.

"Mae llai o bobl yn defnyddio canghennau ac mae mwy na 90% o'n cwsmeriaid yn rhyngweithi drwy ein sianeli digidol erbyn hyn - Sef cynnydd o 80% ers y llynedd," meddai Francesca McDonagh, pennaeth bancio manwerthu HSBC.

Fe ddaw'r newyddion ychydig wythnosau wedi i fanc y Nat West gyhoeddi eu bod nhw hefyd yn cau nifer o ganghennau ar draws Cymru gan gynnwys naw yn y gogledd.