Gwirion ar y 999

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yng Nghymru o dan gryn straen gyda phrinder staff a phwysau ariannol yn broblemau dyddiol. Ond weithiau, mae galwadau ffôn gan rai aelodau o'r cyhoedd yn rhoi pwysau ychwanegol, diangen ar staff.

Ym mis Ionawr eleni, fe dderbyniodd Ambiwlans Cymru alwad ffôn gan ddyn yn cwyno o "dorcalon":

#dewisdoethFfynhonnell y llun, Twitter

Yn ôl Ambiwlans Cymru, gall galwadau o'r fath beryglu bywyd pobl eraill.

Dywedodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Er bod rhai o'r galwadau anaddas yma yn swnio'n eithaf doniol, dyw'r effaith posib ar gleifion sy'n disgwyl am ambiwlans mewn argyfwng yn sicr ddim.

"Mae galwadau fel y rhain yn gallu gwastraffu amser y rhai sy'n ateb y ffonau gan olygu fod pobl sydd wir angen gofal brys yn gorfod disgwyl am hirach."

Stiletto, KFC a bowlen y ci

Fel rhan o ymgyrch #DewisDoeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, dyma ddetholiad o alwadau ffôn mwyaf "anarferol" a dderbyniodd y gwasanaethau brys dros y 12 mis diwethaf:

  • Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad gan ddyn oedd yn ceisio dod o hyd i ferch oedd o wedi'i chyfarfod tra ar wyliau

  • Ffoniodd un ddynes Heddlu Gogledd Cymru i ofyn os oedd un o'i stilettos wedi dod i'r fei

  • Ffoniodd un dyn y gwasnaethau brys i gwyno am ddŵr poeth ar ôl iddo fwyta chilli con carne

  • Yn ne Cymru, deliodd yr heddlu â galwad gan ddynes yn chwilio am £1 i roi yn ei throli siopa

  • Derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad ffôn gan rhywun yn gofyn am gyfeiriadau i'r KFC agosa'

  • Hefyd yn y gogledd, fe dderbyniodd yr heddlu alwad gan ddyn oedd yn dweud bod ei fab yn gwrthod mynd i'r gwely am ei fod yn chwarae gemau cyfrifiadurol

  • Mewn un achos, cysylltodd dynes gyda'r heddlu i ddweud bod ei merch wedi yfed o fowlen y ci

  • Ffoniodd un person y gwasanaethau brys i ddweud bod bwrdd gwydr wedi torri yn y tŷ, ac er nad oedd neb wedi anafu, roedd y person yn poeni byddai'r ci yn cael niwed

  • Ym Mhowys, ffoniodd un ddynes 999 i ddweud wrth yr heddlu bod ei bws yn hwyr - a gofyn pryd oedd y nesa'n cyrraedd